Y Garn (Glyderau)
Mae'r Garn yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau.
![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Uwch y môr | 947 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.115°N 4.048°W ![]() |
Cod OS | SH6309259572 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 236 metr ![]() |
Rhiant gopa | Glyder Fawr ![]() |
Cadwyn fynydd | Glyderau ![]() |
![]() | |
Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r dde yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Garn. Gellir dringo'r mynydd o Ben-y-pass hefyd.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 947 metr (3107 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefydGolygu
Dolennau allanolGolygu
CyfeiriadauGolygu
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |