Dehradun

(Ailgyfeiriad o Dehra Dun)

Prifddinas talaith Uttarakhand yn India yw Dehradun (Hindi: देहरादून), a sillefir yn aml fel Dehra Dun ac weithiau hefyd fel Dehra Doon. Mae'n ganolfan weinyddol i Ddosbarth Dehradun. Fe'i lleolir yn nyffryn Dun, 230 km i'r gogledd o Delhi Newydd, prifddinas India. Gorwedd yn nhroedfryniau'r Himalaya, sy'n gorwedd i'r gogledd o'r ddinas, gyda Bryniau Sivalik Hills i'r de, afon Ganga i'r dwyrain, ac afon Yamuna i'r gorllewin. Cyn creu Uttarakhand ar 9 Tachwedd, 2000, roedd Dehradun yn rhan o Uttar Pradesh. Mae dinasoedd a threfi cyfagos yn cynnwys Haridwar (Hardwar), Rishikesh a Mussoorie.

Dehradun
Mathdinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr Edit this on Wikidata
LL-Q1571 (mar)-JayashreeVI-देहरादून.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth578,420 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1676 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDehradun district Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd300 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr435 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.318°N 78.029°E Edit this on Wikidata
Cod post248001 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa stryd yn Dehradun
Parc Teml y Bwda, Dehradun

Yng nghyfnod y Raj Brydeinig tyfodd Dehradun yn frynfa (hill station) a oedd, gyda Mussoorie, yn boblogaidd fel lle i ddianc rhag gwres llethol gwastatir gogledd-orllewin India yn yr haf ac mae'n dal yn boblogaidd fel man gwyliau gan drigolion yr ardal honno heddiw.

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.