Deidre Brock
Gwleidydd o'r Alban yw Deidre Brock (ganwyd 23 Tachwedd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ogledd Caeredin a Leith; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin. Mae Deidre'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Deidre Brock | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2022 | |
Rhagflaenydd | Mark Lazarowicz Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | Gorllewin Awstralia | 23 Tachwedd 1961
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Gogledd Caeredin a Leith |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Ganwyd Brock yng Ngorllewin Awstralia a magwyd hi yn Perth. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Curtin ac actio yn Academi Perfformio a Chelfyddyd, Awstralia. Cymerodd ran yn yr opera sebon boblogaidd Home and Away. Wedi gwyliau yn Awstralia yn 1996, penderfynodd symud i fyw yno.
Etholiad 2015
golyguYn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Deidre Brock 23742 o bleidleisiau, sef 40.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 31.3 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5597 pleidlais.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban