Gogledd Caeredin a Leith (etholaeth seneddol y DU)
Mae Gogledd Caeredin a Leith yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1997 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae'r etholaeth yn un o bump o fewn Dinas Caeredin.
Gogledd Caeredin a Leith | |
---|---|
Etholaeth Bwrdeistref ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Gogledd Caeredin a Leith yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1997 |
Aelod Seneddol | Deidre Brock SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Edinburgh Leith |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
- Gofal: ceir hefyd etholaeth arall o'r un enw ar gyfer Senedd yr Alban.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Deidre Brock, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.
Aelodau SeneddolGolygu
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|