Dis

(Ailgyfeiriad o Deis)

Dros y blynyddoedd mae dis wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd mewn gemau; boed rheiny yn gamblo, neu yn gem gyda’r teulu, megis Monopoly. Mae yna hyd yn oed rhai gemau sydd yn cael eu chwarae gyda dis yn unig, fel Yahtzee, neu Pig.

Disiau Ewropeaidd

Defnydd golygu

 
Casgliad o ddisiau hanesyddol o Asia

Cafodd dis eu dyfeisio rhywbryd yn yr oesoedd cyn-hanesyddol. Yn wir mae’r son cyntaf amdanynt i'w gael yn y Rig Veda, cerdd Sansgrit a gyfansoddwyd rhywbryd o amgylch 1700 CC efallai! Rydym hefyd yn gwybod bod yno chwarae gyda deis wedi bod yng nghyfnod Groeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig.

Roedd y dis wreiddiol yn esgyrn-arddwrn (Knucklebones), ac yna ‘Steatite’, math o dalc. (Mae’r llun ar y chwith yn dangos gwahanol mathau o ddis dros yr oesoedd.)

Mae dis hefyd yn cael eu creu o nifer o wahanol defnyddiau; o fetel, asgwrn, pren, carreg, ac yn awr, plastig. Mae yna hefyd dis yn cael eu cynhyrchu sydd wedi cael eu amharu, felly maent yn fwy tebygol i lanio ar un ochr na’r lleill. Mae yno hefyd dis anghiwboid; mae yno rai octagonol, tetrahedronol, trapezohedronogol, dodecahedronol ac icosahedronol!

Felly, i gloi mae dis yn offer ddefnyddiol sydd wedi bod o amgylch am ganrifoedd lawer, yn effeithio, ac, weithiau yn rheoli ein gemau!

Gemau Dis golygu

 
Paschier Joostens, De Alea, 1642

Mae yna nifer fawr o emau yn cael eu chwarae gan ddefnyddio Dis yn ein Cymdeithas ni. Mae rhai o’r rhain yn hen iawn, am fod gan dis hanes hen iawn; gweler oddi tano.

Dyma engrheifftiau o rai o’r gemau hyn:

Snakes and Ladders golygu

Cafodd y gêm hon ei dyfeisio yn Lloegr rhai canrifoedd yn ôl, er i rai honi ei fod wedi tarddu yn yr India Sangscritaidd. Mae hi’n êm syml sy’n dibynnu ar y rhol ar ddis.

Monopoly golygu

Prif: Monopoly

Cafodd Monopoly ei ddyfeisio gan y brodyr Parker yn 1935 yn yr Amerig. Mae Monopoly yn dibynnu llai ar rol dis nag y mae gemau fel S&L, ond mi all rol gwael cael effaith sylweddol ar eich gêm

Warhammer golygu

Mae Warhammer yn êm fwy diweddar nag y mae Monopoly a Snakes and Ladders, ond hyd yn oed mewn gemau newydd, mae’r dis dal yn ran hanfodol o’i cynhwysion.