Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938, dan arweiniad Undeb Cymru Fydd, dechreuwyd casglu enwau ar gyfer Deiseb Genedlaethol. Trefnydd ac ysgrifennydd y Ddeiseb oedd Dafydd Jenkins.[1][2] Diben y Ddeiseb oedd hawlio statws i'r iaith Gymraeg 'a fyddai'n unfraint â'r Saesneg ym mhob agwedd ar weinyddiad y gyfraith a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'. Arwyddwyd y Ddeiseb gan dros chwarter miliwn o bobl a chafwyd cefnogaeth 30 allan o'r 36 Aelod Seneddol Cymreig.

Arweiniodd hyn at Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a ganiataodd y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn ond methwyd a sicrhau hawliau ehangach.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Owen, Morfudd (Mehefin 2012). Dafydd Jenkins (1911-2012), Rhifyn 593. Barn
  2. cyfraith-hywel.cymru.ac.uk; Archifwyd 2016-01-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Ionawr 2015
  3. Cymdeithas yr Iaith, Deiseb yr Iaith, Addysg Archifwyd 2005-10-27 yn y Peiriant Wayback o wefan Ymgyrchu!, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2.9.2012