Dafydd Jenkins (hanesydd)
Awdur, bargyfriethiwr ac ymgyrchydd iaith oedd Dafydd Jenkins neu David Arwyn Jenkins fel y’i bedyddwyd (1 Mawrth 1911 – 5 Mai 2012).[1] Daeth yn arbennigwr ar Gyfreithiau Hywel Dda.
Dafydd Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1911 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 5 Mai 2012 ![]() Blaenpennal ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, bargyfreithiwr ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Derek Allen Prize ![]() |
Bywyd cynnarGolygu
Fe’i ganed yn Llundain i rieni a oedd â’u gwreiddiau yng Ngheredigion. Mynychodd Ysgol Merchant Taylor ac yn dilyn cael ysgoloriaeth yn y gwyddorau aeth i Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt, lle newidiodd at y Gyfraith ar gyfer ail ran ei radd.[2]
Gwaith fel bargyfriethiwrGolygu
Pan alwyd ef i’r bar yn 1934, ymunodd â Chylchdaith Cyfraith De Cymru a symudodd i fyw i Gaerfyrddin.
YmgyrchuGolygu
Daeth yn weithgar gyda Phlaid Genedlaethol Cymru ac yn 1936 cyhoeddodd lyfr Tân yn Llŷn am achos ‘Yr Ysgol Fomio’. Gadawodd ei waith yn y llysoedd ac yn 1938 trefnodd Ddeiseb yr Iaith a alwodd am ddefnydd swyddogol o’r Gymraeg yn y Llysoedd Barn. Roedd yn wrthynebwr cydwybodol gan ei fod yn heddychwr o argyhoeddiad, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd ffermiai yn Nhrawsnant Isaf yng Ngheredigion.
Yr academyddGolygu
Dechreuodd ddarlitho yn Adran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1965, ac o 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1978, daliai Gadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Hywel Dda.[3] Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946 am Hanes y Nofel Gymraeg. Cyfansoddod lu o adroddiadau ar amaethyddiaeth ac ar bynciau gwleidyddol a hanesyddol.
CyhoeddiadauGolygu
- Tân yn Llŷn (1936)
- Llyfr Colan (1963)
- Cyfraith Hywel (1970)
- Hywel Dda: The Law (1986) – cyfieithiad o Gyfraith Hywel
TeuluGolygu
Priododd Gwyneth Owen ac fe gawsant un mab.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (28 Mai 2012). Professor Dafydd Jenkins: Barrister and authority on the laws of medieval Wales. The Independent. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2013.
- ↑ Owen, Morfudd (2012). Dafydd Jenkins (1911-2012), Rhifyn 593. Barn
- ↑ Yr Athro Dafydd Jenkins yn 100 oed Archifwyd 2013-05-27 yn y Peiriant Wayback. Tudalen newyddion gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dolen allanolGolygu
- Professor Dafydd Jenkins: Barrister and authority on the laws of medieval Wales Archifwyd 2012-06-16 yn y Peiriant Wayback. Ysgrif coffa yn The Independent.