Delw y Byd

Llawysgrif am ddaearyddiaeth y byd a gynhwysir oddi fewn i Lyfr Coch Hergest ac sy'n dyddio i'r 14g
(Ailgyfeiriad o Delw'r Byd)

Llawysgrif am ddaearyddiaeth y byd yw Delw y Byd neu Ddelw'r Byd a gynhwysir oddi fewn i Lyfr Coch Hergest (Coleg yr Iesu, Rhydychen; MS 111) a Llyfr Gwyn Rhydderch, ac sy'n dyddio i'r 14g. Yn y gwaith hwn cawn gip ar y ddealltwriaeth ganoloesol o strwythur y bydysawd.

Delw y Byd
Rhan agoriadol o'r llawysgrif: Y llyfyr hwn a elwir ymago mwndi. Sef yw hynny delw'r byd. kanys kydymdaith a'i gwnaeth oarch y llall o ffurfedigaeth ybyd yr hwn y sydd ar weith pel gron a gwahanedig o'r defnyddyeu megys wy.
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Rhan oLlyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi14 g Edit this on Wikidata
Genregwyddoniaeth, daearyddiaeth Edit this on Wikidata
LleoliadColeg yr Iesu Edit this on Wikidata
RhanbarthRhydychen Edit this on Wikidata

Cyfieithiad Cymraeg canoloesol yw Delw'r Byd o lyfr cyntaf y gwyddoniadur Lladin o'r enw Imago Mundi , a ysgrifennwyd gan Honorius Augustodunensis yn chwarter cynta'r 12c. Mae'r testun yn dechrau gyda'r geiriau: Rhan agoriadol o'r llawysgrif: Y llyfyr hwn a elwir ymago mwndi. Sef yw hynny delw'r byd. kanys kydymdaith a'i gwnaeth oarch y llall o ffurfedigaeth ybyd yr hwn y sydd ar weith pel gron a gwahanedig o'r defnyddyeu megys wy.

Mae'r testun hwn yn enghraifft dda o'r rhyngweithio rhwng byd deallusol Ewrop a Chymru ddiwedd y 12-13c. ac mae'r wybodaeth wyddonol yn seiliedig ar ffynonellau Rhufeinig, hynafol ac fe'u rhennir yn bedair elfen: dŵr, daear, aer a thân. Cyflwynir yma wybodaeth ddaearyddol, anthropolegol a seryddol, yn aml gyda chyd-destunau hanesyddol a mytholegol.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. rhyddiaithganoloesol.cardiff.ac.uk; Archifwyd 2021-07-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Gorffennaf 2021.