Denise Mina
Awdures o'r Alban yw Denise Mina (ganwyd yn Glasgow; 21 Awst 1966) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, dramodydd, bardd-gyfreithiwr, ac awdur comics. Ymhlith ei gwaith pwysicaf mae'r trioleg Garnethill a thair nofel am y cymeriad Patricia "Paddy" Meehan, newyddiadurwr o Glasgow. Hi yw awdur Tartan Noir ac ysgrifennodd hefyd 13 rhifyn o Hellblazer (hyd at Gorffennaf 2019).[1] Nid yw ei hymdrech fel dramodydd, fodd bynnag wedi bod yn llwyddiant.[2][3][4][5]
Denise Mina | |
---|---|
Ganwyd | 21 Awst 1966 East Kilbride |
Man preswyl | Glasgow |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, dramodydd, bardd-gyfreithiwr, awdur comics, llenor, troseddegwr, academydd |
Arddull | nofel drosedd, nofel ddirgelwch |
Gwobr/au | Gwobr Dagr Waedlyd Newydd y CWA, German Crime Fiction Award, Barry Award/Best British Crime Novel, Gwobr Martin Bec |
Gwefan | http://www.denisemina.co.uk |
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Ystrad Clud. [6][7]
Ffilmiwyd y nofel gyntaf am Paddy Meehan, sef The Field of Blood, gan y BBC i'w darlledu yn 2011, ac mae'r sêr Jayd Johnson, Peter Capaldi a David Morrissey yn ymddangos ynddi. Cafodd yr ail yn y gyfres, The Dead Hour, ei ffilmio a'i ddarlledu yn 2013.[8]
Bywgraffiad
golyguGanwyd Denise Mina yn East Kilbride ym 1966. Gweithiodd ei thad fel peiriannydd ac oherwydd ei waith, symudodd y teulu 21 gwaith mewn 18 mlynedd: o Baris i'r Hague, Llundain, yr Alban a Bergen. Gadawodd Mina yr ysgol yn un-ar-ddeg oed a gweithiodd mewn nifer o fân-swyddi, gan gynnwys barforwyn, porthor cegin a chogydd. Bu hefyd yn gweithio am gyfnod mewn ffatri prosesu cig. Yn ei hugeiniau bu'n gweithio fel nyrs gynorthwyol ar gyfer cleifion geriatrig a therfynol cyn dychwelyd i addysg ac ennill gradd yn y gyfraith o Brifysgol Glasgow.[9]
Tra'n ymchwilio i draethawd PhD ar salwch meddwl troseddwyr benywaidd, ac ar yr un pryd yn addysgu troseddeg a chyfraith droseddol ym Mhrifysgol Strathclyde yn y 1990au, penderfynodd ysgrifennu ei nofel gyntaf Garnethill, a gyhoeddwyd ym 1998 gan Transworld.
Mae Mina'n byw yn Glasgow.
Anrhydeddau
golygu- Hyd at 2019:
- 1998 John Creasey Dagger am y Best First Crime Novel, Garnethill
- 2011 The Martin Beck Award (Bästa till svenska översatta kriminalroman), am The End of the Wasp Season[10]
- 2012 Theakston's Old Peculier Crime Novel of the Year Award, am The End of the Wasp Season[11]
- 2013 Theakstons Old Peculier Crime Novel of the Year Award', am Gods and Beasts[12]
- 2017 Gwobr Gordon Burn, am The Long Drop[13]
- 2017 McIlvanney Prize for Scottish Crime Novel of the Year, am The Long Drop[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Irvine, Alex (2008), "John Constantine Hellblazer", in Dougall, Alastair, The Vertigo Encyclopedia, New York: Dorling Kindersley, pp. 102–111, ISBN 0-7566-4122-5, OCLC 213309015
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2006/07/17/books/17masl.html. http://www.nytimes.com/2008/03/09/books/review/Crime-t.html?ref=books. http://www.nytimes.com/2013/02/24/books/review/ghostman-by-roger-hobbs-and-more.html. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. "Denise Mina". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
- ↑ Galwedigaeth: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ionawr 2021 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ionawr 2021 Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.boersenblatt.net/news/preise-und-auszeichnungen/deutscher-krimipreis-vergeben-159895. dyddiad cyrchiad: 27 Ionawr 2021. http://new.deadlypleasures.com/barry-awards/.
- ↑ Ellis, Maureen (13 Rhagfyr 2010), "Face to Face: Denise Mina", The Herald (Glasgow), http://www.heraldscotland.com/life-style/real-lives/face-to-face-denise-mina-1.1074064, adalwyd 2010-12-14
- ↑ page 178, Great Women Mystery Writers, Ail rifyn. gan Elizabeth Blakesley Lindsay, 2007, cyhoedd. Greenwood Press, ISBN 0-313-33428-5
- ↑ Svenska Deckarakademin: Bästa översatta Archifwyd 28 Mehefin 2012 yn y Peiriant Wayback Gwobr gan Academi Awduron Llyfrau Trosedd.
- ↑ Alison Flood (20 Gorffennaf 2012). "Denise Mina wins crime novel of the year award". The Guardian. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2012.
- ↑ Liz Bury (19 Gorffennaf 2013). "Denise Mina steals Theakstons Old Peculier crime novel award". The Guardian. Cyrchwyd 14 Medi 2018.
- ↑ "The winner of the Gordon Burn Prize 2017 is announced". New Writing North. 12 Hydref 2017. Cyrchwyd 16 Mawrth 2018.
- ↑ "McIlvanney Prize 2017 Winner". Bloody Scotland. 8 Medi 2017. Cyrchwyd 14 Medi 2018.