Denmarc–Norwy

(Ailgyfeiriad o Denmarc-Norwy)

Undeb brenhinol yn cynnwys Teyrnas Denmarc, Teyrnas Norwy (gan gynnwys Ynysoedd Ffaröe, Gwlad yr Iâ, a'r Ynys Las), Dugiaeth Schleswig, a Dugiaeth Holstein oedd Denmarc–Norwy (Daneg a Norwyeg: Danmark–Norge) a fodolai o'r 16g hyd at 1814. Roedd yn berchen hefyd ar nifer o drefedigaethau tramor: y Traeth Aur Danaidd, Ynysoedd Nicobar, Serampore, Tharangambadi, ac Ynysoedd Danaidd India'r Gorllewin.

Denmarc–Norwy
Mathgwlad ar un adeg, Undeb personol, real union Edit this on Wikidata
PrifddinasCopenhagen, Oslo Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1536 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Daneg, Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau55.6722°N 12.525°E Edit this on Wikidata
Map

Roedd y cenhedloedd a'r grwpiau ethnig o dan reolaeth Denmarc–Norwy yn cynnwys Daniaid, Norwyaid, Almaenwyr, Ffaroaid, Islandwyr, Inuit, a Sami. Y dinasoedd mwyaf oedd Copenhagen, Christiania (Oslo bellach), Altona, Bergen, a Trondheim, a'r prif ieithoedd oedd Daneg, Almaeneg, Norwyeg, Islandeg, Ffaröeg, Sami, a'r Lasynyseg.

Cyfeiriadau golygu