Un o lynnoedd Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Derwentwater (Cymraeg: Llyn Derwennydd) , a leolir yn nyffryn Borrowdale yn awdurdod unedol Cumberland. Mae Afon Derwent yn llifo i mewn iddo yn y de, ac yn ei ddraenio yn y gogledd. Mae ganddo hyd o 3 milltir (4.8 km), lled o 1 milltir (1.6 km) a dyfnder o tua 22 metr (72 troedfedd) yn ei ran ddyfnaf. Mae sawl ynys yn y llyn.

Llyn Derwennydd
Mathllyn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolLloegr
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.5833°N 3.15°W Edit this on Wikidata
Hyd4.6 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddArdal y Llynnoedd, Lloegr Edit this on Wikidata
Map

Yn ôl yr Athro R. Geraint Gruffydd, mae'n fwy na thebyg mai Llyn Derwennydd oedd yr hen enw, ac mai cyfeiriad at Raeadr Derwennydd a geir yn y gerdd Pais Dinogad (7g, pan ddywedir:

Pan elai dy dad di i fynydd
Dyddygai ef pen i wrch, pen gwythwch, pen hydd,
Pen grugiar fraith o fynydd,
Pen pysg o Rhaeadr Derwennydd.[1]

Derwentwater ar fap Arolwg Ordnans o 1925

Oriel golygu

Derwentwater o'r lan ogleddol ger Keswick
Derwentwater o Cat Bells ar yr ochr orllweinol

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Ble oedd Rhaeadr Derwennydd’?; Yr Athro R. Geraint Gruffydd
  Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato