Ardal y Llynnoedd, Lloegr

(Ailgyfeiriad o Ardal y Llynnoedd)

Ardal wledig yng Ngogledd-orllewin Lloegr sy'n enwog am ei llynnoedd a mynyddoedd ydy Ardal y Llynnoedd[1] (hefyd Bro'r Llynnoedd).[2]

Ardal y Llynnoedd, Lloegr
Mathcadwyn o fynyddoedd, rhanbarth, lake area Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1951 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
SirCumbria, Gogledd Swydd Efrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,362 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr978 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5°N 3.1667°W Edit this on Wikidata
Hyd55 cilometr Edit this on Wikidata
Rheolir ganLake District National Park Authority Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, sy'n cwmpasu ardal o 2,362 km², ym 1951. Mae'r parc yn cynnwys yr ardal ganolog, sef yr ardal fwyaf ymweledig, sy'n gorwedd yn gyfangwbl yn Cumbria, ac sy'n cynnwys pob mynydd uwch na 3,000 troedfedd (914 m) yn Lloegr, gan gynnwys Scafell Pike, mynydd uchaf y wlad honno. Mae hefyd yn cynnwys y llyn mwyaf Lloegr, sef Windermere, a'r llyn dyfnaf Lloegr, sef Wast Water. Er ei fod yn ardal mor wledig, mae'n cynnwys un o dinasoedd mwyaf yr ardal, sef dinas Caerliwelydd.

Mae Ardal y Llynnoedd ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1988.[3] Mae UNESCO o'r farn bod yr Ardal yn dangos datblygiad y syniad o werth cyffredinol tirwedd olygfaol, ynddo'i hun ac yn ei allu i feithrin a gwella dychymyg, creadigrwydd ac ysbryd; arweiniodd yn uniongyrchol at ddatblygiad sefydliad cadwraethol Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – syniad a ledaenodd i lawer o wledydd, a chyfrannodd at y cysyniad modern o dirweddau a warchodir yn gyfreithiol.

Mae'r ardal yn gyrchfan wyliau boblogaidd, mae'n enwog am ei llynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd, a'i chysylltiadau â William Wordsworth a Beirdd y Llynnoedd eraill, a hefyd gyda Beatrix Potter a John Ruskin.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. lake
  2. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
  3. "The English Lake District". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.