Deuniwcleotid Adenin Nicotinamid (NAD)

cyfansoddyn cemegol

Cydensym sy'n ganolog i fetabolaeth pob cell byw yn Deuniwcleotid Adenin Nicotinamid (NAD). NAD yw un o'r elfennau canolog i'r cylch Rydocs (Rydwytho/Ocsideiddio) sydd wrth wraidd egni bywyd ar y ddaear. NAD yw'r ffurf lai egnïol (wedi'i ocsideiddio) sy'n troi'n NADH wrth amsugno egni rhydwythiad. Gellir ystyried cwpwl NAD/NADH fel y "batri adwefriadwy" (rechargable) moleciwlar sy'n pweru adweithiau celloedd. Mae nifer helaeth o brosesau wedi'i chyplysu i'r adwaith NAD/NADH. O bosibl y pwysicaf yw resbiradaeth (gan gynnwys Cylch Krebs) sy'n ocsideiddio glwcos er mwyn rydwytho NAD -> NADH. Mae Ffotosynthesis yn fodd i ddefnyddio egni ffotonau'r haul i gynnal adwaith homologaidd NADP -> NADPH.

NAD

Yn y mitocondrion trosglwyddir yr egni Rydocs yma i ffurfio'r moleciwl egnïol ATP o ADP (a ffosffad). Mae cwpwl ATP/ADP yn rhan arall cyffredinol o brosesau egni celloedd (a bywyd).

Cyfeiriadau golygu