Dewi Bebb

newyddiadurwr, chwaraewr rygbi'r undeb (1938-1996)

Chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig oedd Dewi Iorwerth Ellis Bebb (7 Awst 193814 Mawrth 1996), a enillodd tri deg pedwar o gapiau dros Gymru fel asgellwr.

Dewi Bebb
Ganwyd7 Awst 1938 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 1996 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Taldra176 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau72 cilogram Edit this on Wikidata
TadWilliam Ambrose Bebb Edit this on Wikidata
PlantSion Bebb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed Dewi Bebb ym Mangor yn fab i'r hanesydd Ambrose Bebb. Addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn ddiweddarach yn Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a Choleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Abertawe yn erbyn Llanelli yn 1958. Bu gydag Abertawe trwy gydol ei yrfa fel chwaraewr, gan chwarae iddynt 221 o weithiau, sgorio 87 cais a bod yn gapten ar y tîm yn 1963-4 a 1964-5.

Gyrfa Ryngwladol golygu

Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr yn 1959, gan fynd ymlaen i ennill tri deg pedwar o gapiau rhwng 1959 a 1967 a sgorio unarddeg cais. Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Dde Affrica yn 1962, gan chwarae yn y ddwy gem brawf, ac i Awstralia, Seland Newydd a Chanada yn 1966, unwaith eto'n chwarae ymhob un o'r gemau prawf.

Athro oedd Bebb wrth ei alwedigaeth yn wreiddiol, ond yn nes ymlaen daeth yn ddarlledydd a newyddiadurwr.