Aled Rhys Hughes
Artist lens a darlithydd ffotograffiaeth yw Aled Rhys Hughes (ganwyd Mehefin 1966). Cafodd ei eni yn Ynyshir, Cwm Rhondda yn 1966 a bu'n gweithio fel ffotograffydd ers ei arddegau.[1] Mae bellach yn byw yn Rhydaman.
Aled Rhys Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 1966 Ynys-hir |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffotograffydd, darlithydd |
Tad | Dewi Myrddin Hughes |
Yn 2004, cyhoeddwyd Môr Goleuni Tir Tywyll (Gomer), cyfrol goffa i Waldo Williams, a oedd yn cynnwys lluniau gan Aled Rhys Hughes a wnaed mewn ymateb i rai o gerddi'r bardd.
Enillodd Aled Rhys Hughes y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 am gyfres o luniau mawr o'r enw Ffarwel Rock, lluniau o'r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.
Yn 2008, ymddangosodd cyfres newydd o luniau ochr yn ochr â gwaith bardd, sef Iwan Llwyd, yn y gyfrol arbennig Rhyw Deid yn Dod Miwn (Gomer). Dyfarnwyd Gwobr y Diwydiant i'r gyfrol fel y llyfr lluniau gorau, yn 2010.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Môr Goleuni Tir Tywyll (Gwasg Gomer, 2004)
- Rhyw Deid yn Dod Miwn (Gwasg Gomer, 2008)
- Mametz (Seren, 2016)
Dolenni allanol
golygu- Gwefan bersonol Aled Rhys Hughes Archifwyd 2020-11-24 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Aled Rhys Hughes". BBC Cymru. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.
- ↑ Laura Chamberlain (9 Awst 2010). "A Turning Tide at the Mission Gallery, Swansea". BBC Wales. Caerdydd. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.(Saesneg)