Dharamsala
Tref yn Ardal Kangra yn nhalaith Himachal Pradesh, yn rhagfryniau'r Himalaya yng ngogledd India yw Dharamsala neu Dharamshāla, (yn llythrennol "Tŷ Gorffwys"; Hindi: धर्मशाला; Tibeteg: དྷ་རམ་ས་ལ་).
Mae'r dref yn adnabyddus fel lleoliad pencadlys Gweinyddiaeth Ganolog Tibet, llywodraeth alltud Tibet, a arweinir gan Tenzin Gyatso, y Dalai Lama presennol. Lleolir pencadlys y llywodraeth yn faesdref McLeod Ganj, a elwir weithiau yn Dharamsala Uchaf neu "Lhasa Fach". Sefydlwyd y llywodraeth yno yn 1959, gyda chefnogaeth Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India.