Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama
Jetsun Jamphel Ngawang Lobsang Yeshe Tenzin Gyatso (enw genedigol Llhamo Döndrub; Tibeteg: ལྷ་མོ་དོན་འགྲུབ་ Lha-mo Don-'grub) (ganed 6 Gorffennaf 1935 yn Qinghai, Tibet), yw'r 14eg Dalai Lama, gan olynu Thubten Gyatso. Mae'r Dalai Lama yn arweinydd ysbrydol uchel ei barch gan y Tibetiaid sydd â dylanwad mawr dros yr Ysgol Gelug, cangen o Bwdhiaeth Tibet. Mae'n bennaeth llywodraeth alltud Tibet yn Dharamsala, India. Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 1989. Ef yw'r mynach Bwdhaidd mwyaf adnabyddus yn y byd. Fodd bynnag, mae llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina, sy'n llywodraethu Tibet, yn gwrthod ei hawl i gynrychioli pobl y wlad honno.
Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama | |
---|---|
Ganwyd | ལྷ་མོ་དོན་འགྲུབ། 6 Gorffennaf 1935 Taktser |
Man preswyl | McLeod Ganj, Potala Palace, Norbulingka |
Dinasyddiaeth | Tibet, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Gweriniaeth Tsieina |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bhikkhu, Lama, gwleidydd |
Swydd | Dalai Lama, National People's Congress deputy |
Adnabyddus am | Universal Responsibility and the Good Heart |
Mudiad | heddychiaeth |
Tad | Choekyong Tsering |
Mam | Gyalyum Chenmo |
Llinach | family of the 14th Dalai Lama |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, honorary Canadian citizenship, Urdd Ramon Magsaysay, Erik Bye's Memorial Prize, Gwobr Templeton, Gwobr Four Freedoms, Philadelphia Liberty Medal, Gwobr James Parks Morton am Rannu Ffydd, Gwobr Heddwch Hesse, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Dr. Leopold Lucas, honorary citizen of Warsaw, honorary citizen of Rome, dinesydd anrhydeddus Budapest, Order of the White Lotus, Order of the Tyva Republic, Urdd y Wên, honorary doctor of the University of Santiago, Chile, honorary doctor of the University of Marburg, honorary doctor of Lusíada University, honorary doctor of the University of Tartu, honorary doctor of the University of Münster, Osgar, honorary doctor of the University of Tromsø, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Order Ecce Homo, honorary doctorate of Paris Nanterre University, honorary doctor of Comenius University |
Gwefan | http://www.dalaiLama.com/, http://dalailama.ru/, http://eldalailama.com/, https://fr.dalailama.com/, http://de.dalailama.com/ |
llofnod | |
Ganed Tenzin Gyatso y pumed o 16 o blant mewn teulu o ffermwyr ym mhentref Taktser, yn nhalaith Qinghai, lle siaradai y dafodiaith Tibeteg Amdo fel ei iaith gyntaf. Cafodd ei gyhoeddi yn tulku (ailenedigaeth) y 13eg Dalai Lama dwy flynedd ar ôl ei eni yn 1935. Ar 17 Tachwedd 1950, yn bymtheg oed, cafodd ei orseddu fel Dalai Lama Tibet, gan ddod felly yn arweinydd gwleidyddol a chrefyddol pwysicaf y wlad honno. Digwyddodd hynny cwta un mis yn unig ar ôl i Byddin Rhyddhad y Bobl (y PLA) ddechrau goresgyn Tibet.
Ar ôl arwyddo, dan bwysau milwrol, Cytundeb 17 Pwynt 1951, ffodd o Dibet i India ar ôl methiant gwrthryfel Tibetaidd 1959. Yn India bu ganddo ran flaenllaw mewn sefdydlu Gweinyddiaeth Ganolog Tibet fel llywodraeth alltud a cheisio diogelu diwylliant Tibet ac addysg Dibeteg i'r miloedd o Dibetiaid a ffoes i India.
Mewn alltudiaeth, mae'r Dalai Lama wedi teithio'n eang yn y byd Gorllewinol - y Dalai Lamai cyntaf i wneud hynny - ac wedi cysegru ei fywyd i hyrwyddo achos cenedlaethol Tibet ac ymledu dealltwriaeth o Fwdhaeth. Mae'n siaradwr cyhoeddus penigamp. Yn ei ddysgeidiaeth mae'n pwysleisio cydberthynas pobl y byd, cyfrifoldeb pobl i wella'r byd sydd ohoni, moesoldeb seciwlar, a chytgord crefyddol.
Dolenni allanol
golyguGweler hefyd
golyguRhagflaenydd: Thubten Gyatso |
Dalai Lama 1935 – heddiw |
Olynydd: dal i deyrnasu |