Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo
Llyfr Eidaleg o 1632 gan Galileo Galilei yw Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo ("Deialog ynglŷn â dwy brif system y byd") sy'n cymharu system gosmolegol newydd Copernicus â system draddodiadol Ptolemi. Cyhoeddwyd y llyfr yn Fflorens gyda chaniatâd ffurfiol y Chwilys. Fe'i cysegrwyd i noddwr Galileo, Ferdinando II de' Medici, a dderbyniodd y copi printiedig cyntaf ar 22 Chwefror 1632.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Galileo Galilei |
Gwlad | yr Eidal |
Rhan o | Index Librorum Prohibitorum |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 1632 |
Genre | gwyddoniaeth poblogaidd |
Prif bwnc | seryddiaeth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn system Copernus, mae'r Ddaear a phlanedau eraill yn cylchdroi o gwmpas yr Haul, tra yn system Ptolemi mae popeth yn y Bydysawd yn cylchdroi o amgylch y Ddaear. Ysgrifennir y llyfr fel deialog rhwng tri chymeriad. Mae'r cyntaf, Salviati, o blaid system Copernicus, yr ail, Simplicio, o blaid Aristoteles[2] a system Ptolemi, a'r trydydd, Sagredo, heb farn sefydlog ar y mater. Er bod y llyfr yn cyflwyno ei hun fel ystyriaeth o'r ddwy system, nid oes amheuaeth mai dehongliad Copernicus sy'n cario'r dydd.
Gwelodd yr awdurdodau eglwysig y llyfr fel ymosodiad ar y Pab Urbanus VIII ac yn erbyn dysgeidiaeth uniongred yr Eglwys Gatholig, felly yn 1633 gorfodwyd Galileo i sefyll ei brawf gan y Chwilys. Fe'i dyfarnwyd yn euog o heresi, a dedfrwyd ef i arestiad tŷ, lle bu hyd ei farwolaeth yn 1642. Rhoddwyd y Diologo ar Index Librorum Prohibitorum ("Rhestr o Lyfrau Gwaharddedig"), lle y bu hyd 1835.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The trial of Galileo: a Chronology". UMKC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-05. Cyrchwyd 5 Awst 2023.
- ↑ Arthur Koestler, The Sleepwalkers: A History of Man's Changing Vision of the Universe (1959), Penguin Books, 1986 edition: ISBN 0-14-055212-X, 978014055212X 1990 reprint: ISBN 0-14-019246-8, ISBN 978-0-14-019246-9 (Saesneg)
Dolenni allanol
golygu- Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo, argraffiad cyntaf (1632) yn Llyfrgell y Gyngres
- Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo, testun ar Wicidestun Eidaleg