Die Son
Papur newydd dyddiol yn yr iaith Afrikaans yw Die Son ('Haul y Penrhyn' yn Afrikaans); yr enw gwreiddiol yn 2003 oedd Kaapse Son a sefydlwyd gan gwmni cyhoeddi Naspers fel papur wythnosol, tabloid ar gyfer talaith y Penrhyn Orllewinol (neu'r Western Cape yn Ne Affrica). Cyhoeddir y papur yn Nhref y Penrhyn (Afrikaans: Kaapstad).
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Iaith | Affricaneg |
Dechrau/Sefydlu | 2003 |
Pencadlys | Tref y Penrhyn |
Gwefan | http://www.dieson.com |
Cymaint oedd llwyddiant y papur fel y bu iddo droi'n ddyddiol yn 2005. Mae ei gynnwys yn debyg i bapur tabloids 'y Sun' yn Saesneg - mae'r papur yn cynnwys lluniau o ferched bronnoeth ar dudalen 3. Rhoddir y pwyslais ar newyddion 'sensesional', chwaraeon a thrafferthiol personol. Mae bellach yn un o bapurau newydd uchaf ei gwerthiant yn Ne Affrica mewn unrhyw iaith.
Mae ychydig dros hanner darllenwyr y papur yn Kaapse Kleurling (y De Affricanwyr 'Lliw'; Cape Coloured) sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf a'r gweddill yn wyn.
Dolenni allanol
golygu- Die Son - newyddion arlein Archifwyd 2014-09-02 yn y Peiriant Wayback
- Die Son - prisiau hysbysebu a manylion demograffeg darllenwyr Archifwyd 2014-10-05 yn y Peiriant Wayback