Dinas Barhaus a tair drama arall
Cyfrol o bedair drama lwyfan fer gan Wil Sam Jones yw Dinas Barhaus a tair drama arall a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1968. Mae diwyg y gyfrol gan yr arlunydd [a brawd y dramodydd] Elis Gwyn Jones, yn anarferol o gymharu â llyfrau Cymraeg arall y cyfnod. Ar gefn y gyfrol, mae casgliad o luniau o'r dramodydd a'r criw cynorthwyol yn Theatr Fach y Gegin, Cricieth ble llwyfannwyd tair o'r dramâu yma am y tro cyntaf.
Enghraifft o'r canlynol | cyfrol o ddramâu Cymraeg |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1968 |
Awdur | W.S. Jones |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Theatr Fach y Gegin |
Math | Drama |
Y Dramâu
golyguDyma'r pedair drama fer sydd yn y gyfrol:
- Dinas Barhaus (1968)
- Dafydd y Garreg (1968)
- Y Wraig (1968)
- Tro Crwn (1968)
"O'r pedair drama, Tro Crwn ydyw'r unig un nas llwyfannwyd hyd yn hyn [1968]", yn ôl y llenor a'r arlunydd Elis Gwyn Jones.[1] "Yr unig wahaniaeth technegol rhyngddi â'r lleill ydyw bod hen echel car yn hanfodol iddi", noda Elis Gwyn, gan ychwanegu "Os bydd anhawster, anfoner at yr awdur! Mae dramâu ac echelydd yn agos iawn at ei galon o hyd".[1]
Cyhoeddwyd enw, cyfeiriad a rhif ffôn Wil Sam Jones oddi mewn i'r gyfrol at ddibenion "caniatâd" i lwyfannu'r dramâu.[1]
Cafwyd darluniau hefyd gan Elis Gwyn yn ceisio esbonio gweledigaeth dechnegol y dramodydd a gosodiad y llwyfan ar gyfer ambell i ddrama.[1]