Drama lwyfan fer Gymraeg gan Wil Sam Jones yw Dinas Barhaus. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Y Lolfa ym 1968.

Dinas Barhaus
AwdurW.S. Jones
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1968
ISBN9780950017808
GenreDramâu Cymraeg

Disgrifiad byr

golygu

'Cwt Barbwr gweddol flêr' ydi lleoliad y ddrama.[1] "Dinas barhaus, cartra, cartra sefydlog sgin i isio. Rydwi yn byw mewn ofn yli...", ydi un o linellau cyntaf y ddrama gan y cardotyn o arlunydd, Dai. Ond herio'r "Hen siarad Beibil gwirion" wna'r ail gymeriad, "y dyn busnes" Henri. Adlais sydd yma o adnod o Lyfr yr Hebreaid yn y Beibl: "Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod."[2]

Mae'r ddau gymeriad, Henri a Dai, yn dyheu am gartref sefydlog. A hwythau newydd ymgartrefu yn y cwt barbwr, ers "dau ddiwrnod", mae'r drafodaeth am ba mor hir i aros yno, yn codi atgofion am eu gorffennol a'u dyheadau pellach. Ond daw ymwelydd yno, sy'n cael ei ddisgrifio fel 'dyn', ac yn honni mai ef yw perchennog y siop. Try'r drafodaeth rhwng y tri yn ffrae.

Cefndir

golygu

"Mae 'na lawer o bobol yr ymylon yn eich dramâu chi", oedd un sylw wnaeth Myrddin ap Dafydd pan yn cyfweld y dramodydd ar gyfer y gyfrol Deg Drama Wil Sam: " Oes - cofia," oedd ateb Wil Sam, "mi ges i beth wmbrath o gwmni yr hen John Preis [y tramp] [...] Dwin cofio mynd i weld [The] Caretaker, [Harold] Pinter — doedd gan y tramp yn honno 'mond rhyw dri peth — ei gredenshals, ei sgidia a'r tywydd, a dyna fo. 'Run petha â John Preis wsti, ond roedd John yn ddifyrrach na hwnnw. Doedd gynno fynta ddim llawar o betha ond doedd o ddim yn dal i rygnu yr un fath â thramp Pinter."[1]

"...Os bydd rhywun yn ceisio darganfod ystyr yn y ddrama hon," medde brawd y dramodydd, Elis Gwyn Jones, "byddai'n ddiogel honni mai ymchwil am sicrwydd a pharhad a welir yma hefyd. Ymchwil hollol agored am ddinas barhaus sydd yn Dinas Barhaus."[1]

Cymeriadau

golygu
  • Henri
  • Dai
  • Dyn

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

Cyflwynwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Fach y Gegin, Cricieth yn y 1960au.

1970au

golygu

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Ddieithr ym 1972. Cyfarwyddydd Valmai Jones.

Ail gyflwynwyd y ddrama gan Theatr Fach y Gegin yn Chwefror 1976, sef eu cyflwyniad olaf: cast yn cynnyws Ieuan Parry, Dewi Davies ac Emyr Lloyd Evans.[3]

  • Henri
  • Dai
  • Dyn

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Jones, Wil Sam (1995). Deg Drama Wil Sam. Gwag Carreg Gwalch.
  2. Hebreaid 13:14 Oherwydd nid oes dinas barhaus gennym yma; ceisio yr ydym, yn hytrach, y ddinas sydd i ddod. | Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND) | Download The Bible App Now.
  3. Owen, Roger (2000). Llwyfannau Lleol : Theatr y Gegin. Gomer.