Elis Gwyn Jones
Arlunydd, athro, llenor a brawd i'r dramodydd Wil Sam Jones oedd Elis Gwyn Jones neu Elis Gwyn (1918–1999). Ganwyd yn Llanystumdwy.[1]
Elis Gwyn Jones | |
---|---|
Ffugenw | Elis Gwyn |
Ganwyd | Elis Gwyn Jones 1918 Llanystumdwy |
Bu farw | 1999 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, athro, llenor |
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1936 a 1940. Bu'n athro Celf yn Ysgol Uwchradd Pwllheli am dros 30 o flynyddoedd, gan gychwyn ym 1948, ac wedi iddi uno i greu Ysgol Glan y Môr ym 1969.
Daeth i gydnabod ei ddawn fel arlunydd yn sgil gweld gwaith arlunwyr Prydeining fel Brenda Chamberlain a John Petts, a ddaeth yn gyfaill iddo gan ei berswadio i arddangos ei waith am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951.
Roedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar BBC Cymru.
Bu'n aelod prysur o Theatr y Gegin yng Nghricieth yn y 1960au gan gyd-weithio efo'i frawd ac actorion amlwg eraill fel Guto Roberts, Stewart Jones a Meic Povey. Cyfieithodd a chyfarwyddodd gynhyrchiad o ddrama Harold Pinter, The Caretaker yn Gymraeg. Cyhoeddwyd y ddrama yn 2011 o dan y teitl y Gofalwr. Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru ers hynny.
"Mae'n debyg mai [Elis] Gwyn, fy mrawd, gododd flys sgwennu drama arna i'n gynta' un," meddai ei ddramodydd o frawd, Wil Sam Jones, "trwy sôn am y dramâu y byddai fo'n actio ynddyn nhw yng Ngholeg Bangor."[2]
"Dwi'n cofio mynd i weld drama'r coleg i Benrhyndeudraeth. Diofal Yw Dim gan John Gwilym Jones oedd hi a Gwyn yn actio hogyn gwael mewn sanatoriwm. Roedd yr hogyn ar binnau tua dechrau'r ddrama ac yn gwaelu efo pob pesychaid, ond yn raddol roedd yntau'n cynefino [...] Roedd gan Elis Gwyn ddiddordeb mewn sgwennu dramâu a'u cyfarwyddo dipyn go lew cyn i mi drio llunio dim, ond mi ddaeth y clwy heibio i minnau. Yn ystod y pumdegau cynnar, mi ddaeth Emyr Humphreys, y dramodydd a'r nofelydd yn athro i Bwllheli, i'r un ysgol â Gwyn, a thrwy fy mrawd y dois i 'nabod Emyr, sef y dyn oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r [Theatr Fach y] Gegin yn [19]62."[2]
Cyhoeddodd gyfrol am hanes yr arlunydd Richard Wilson ym 1973 ac Hunaniaeth Eifionydd ym 1981. Cyhoeddwyd ei ysgrifau yn 2002 yn y gyfrol Cyfaredd Eifionydd .[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jones, Elis Gwyn, 1918–1999 | Art UK". artuk.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.
- ↑ 2.0 2.1 Hywyn, Gwenno (1985). Wil Sam - Cyfres Y Cewri 5. Gwasg Gwynedd.
- ↑ "Catalogue Search". bll01.primo.exlibrisgroup.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.