W. S. Jones

dramodydd

Dramodydd ac awdur o Gymru oedd William Samuel Jones, a ysgrifennodd dan y ffugenw W.S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 192015 Tachwedd 2007). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc.

W. S. Jones
Clawr un o lyfrau Wil Sam.
FfugenwWil Sam
Ganwyd28 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 2007 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTheatr y Gegin

Bywyd a gwaith

golygu

Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu'n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel peiriannydd cyn agor modurdy ei hun yn Llanystumdwy. Gwerthodd y modurdy yn 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ifanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramâu i’w perfformio yn Theatr Fach y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben ym 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir daeth yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.[1]

Bywyd personol

golygu

Yn 1953 priododd Dora Ann Jones (16 Mawrth 1928 - 29 Mawrth 2023)[2] a mynd i fyw i'r Crown (hen dafarn gynt). Cawsant ddwy ferch, Mair ac Elin.[3] Mae'n frawd i'r arlunydd a llenor Elis Gwyn Jones.

Bu farw Wil Sam yn 87 oed ym Mangor ar y 15 Tachwedd 2007. Cafwyd Gwasanaeth Coffa yng nghapel Moreia, Llanystumdwy ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Newydd Llanystumdwy ar 21 Tachwedd 2007.[4]

Theatr

golygu

Mae ei ddramâu ar gyfer y theatr yn cynnwys

  • Y Gŵr Diarth (1957)
  • Y Dyn Codi Pwysau (1960)
  • Dalar Deg (1962)
  • Tŷ Clap (1965)
  • Dau Frawd (1965)
  • Y Fainc (1967)
  • Tro Crwn (1968)
  • Dafydd y Garreg (1968)
  • Y Wraig (1968)
  • Dinas Barhaus (1968)
  • Mae Rhywbeth Bach (1969)
  • Seimon y Swynwr (1969)
  • Pa John?
  • Y Sul Hwnnw (1981)
  • Ifas y Tryc (1983)
  • Ifas Eto Fyth! (1987)
  • Bobi a Sami (1988)
  • Llifeiriau (1997)
  • Ben Set (2002).

Teledu a Radio

golygu

Cafodd ei waith ei ddarlledu ar deledu cynnar y BBC ac ar y radio. Mae'r dramâu, ffilmiau a chyfresi yn cynnwys:

Nofelau

golygu

Dyn y Mynci (1979)

Llyfryddiaeth

golygu

Astudiaeth

golygu
  • W. S. Jones, Wil Sam, gol. Gwenno Hywyn, Cyfres y Cewri 5 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1985)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wil Sam: Cofio awdur, mecanic a thaid". BBC Cymru Fyw. 2020-05-28. Cyrchwyd 2023-10-29.
  2. "Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2023-10-29.
  3. "Click here to view the tribute page for Dora Ann JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  4. Owen, John (2015-02-05). "JONES, WILLIAM SAMUEL (Wil Sam) (1920-2007), dramodydd". Bywgraffiadur Cymru. Cyrchwyd 2023-10-29.
  5. "CLIP Cymru". clip.library.wales. Cyrchwyd 2024-10-08.