Ystad Dinefwr

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Dinefwr Estate)

Mae Ystad Dinefwr (hefyd Parc Dinefwr), yn ystad hynafol ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys safle Castell Dinefwr, pencadlys tywysogion Deheubarth yn yr Oesoedd Canol. Saif ar lan Afon Tywi. Dyma ganolfan weinyddol cwmwd Maenor Deilo yn yr Oesoedd Canol. Dinefwr oedd prif lŷs ŵyr Rhodri Mawr, sef Hywel Dda, brenin cyntaf Deheubarth ac yn nes ymlaen brenin y rhan fwyaf o Gymru.

Ystad Dinefwr
Mathardal gadwriaethol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd224.53 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.88°N 4.02°W, 51.879648°N 4.013983°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Cadwraeth

golygu

SoDdGA

golygu

Mae'r ystad wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1973 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 224.53 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Math o safle

golygu

Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol).

Cyffredinol

golygu

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu