Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Merched neu Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw yn flynyddol ar yr 8fed o Fawrth.[1] Dethlir mewn gwahanol ffyrdd leled y byd gan gynnwys mynegi: parch, gwerthfawrogiad a chariad yn ogystal â dathlu llwyddiannau'r ferch yn y byd gwleidyddol, gwyddonol, ariannol ayb.
Digwyddiad sosialaidd ydoedd yn wreiddiol ac fe'i cyfrifwyd yn ddiwrnod gŵyl mewn rhai gwledydd yn Ewrop a Rwsia, ond dros amser collwyd yr elfen sosialaidd a daeth yn gyfuniad o Ddiwrnod y Mamau a Diwrnod Sant Ffolant. Mewn gwledydd eraill, fodd bynnag, canolbwyntiwyd yn fwy ar hawliau dynol a brwydrau ac ymdrechion y ferch dros y blynyddoedd. Dethlir y diwrnod mewn rhai mannau drwy wisgo rhuban porffor.
Hanes y diwrnod
golyguYn Awst 1910 trefnwyd Cynhadledd Merched Rhyngwladol ac a ysbrydolwyd gan y Sosialwyr Americanaidd ac Almaenig Luise Zietz a awgrymodd sefydlu'r diwrnod yn rhyngwladol. Eiliwyd y cynnig gan yr arweinydd comiwnyddol Clara Zetkin. Fodd bynnag, ni phenodwyd dyddiad ar gyfer y gynhadledd.[2][3] Roedd yn y cyfarfod hwn oddeutu cant o ferched o 17 o wahanol wledydd, a chytunent y dylai'r diwrnod hyrwyddo hawliau cyfartal gan gynnwys 'dioddefaint merched' (neu suffarage yn y gwreiddiol).[4] Y flwyddyn wedyn ar 19 Mawrth, dathlwyd y diwrnod gan dros filiwn o bobl o Awstria, Denmarc, yr Almaen a'r Swistir.[5][6] Cafwyd hefyd dros 300 o brotestiadau yn yr Ymerodraeth Awstria-Hwngari.[2] Mynnwyd yr hawl i ferched bleidleisio ac i dal swyddi cyhoeddus.
Yn 1913 dathlodd Rwsiaid benywaidd y diwrnod ar y Sul olaf o Chwefror (yn ôl Calendr Iŵl).[6] Y flwyddyn wedyn, roedd y diwrnod hwn yn digwydd bod ar yr 8fed, a chynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol y Merched cyntaf ar y dydd hwn ac ers hynny.[6]
Yn Llundain ar 8 Mawrth 1914, gorymdeithiwyd o Bow i Sgwâr Trafalgar ac arestiwyd Sylvia Pankhurst o flaen gorsaf Charing Cross.[7]
Y Cenhedloedd Unedig
golyguYn y gwledydd gorllewinol, ni dderbyniwyd y diwrnod fel gŵyl swyddogol, cenedlaethol tan 1977 pan wahoddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei haelodau i ddatgan 8 Mawrth yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Fenyw a Heddwch Rhyngwladol, yn flynyddol.[8]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "UN WomenWatch: International Women's Day – History". UN.org. Cyrchwyd 2013-02-21.
- ↑ 2.0 2.1 Temma Kaplan, "On the Socialist Origins of International Women's Day", Feminist Studies, 11/1 (Spring, 1985)
- ↑ "History of International Women's Day". United Nations. Cyrchwyd 26 Mai 2012.
- ↑ "About International Women's Day". Internationalwomensday.com. 8 Mawrth 1918. Cyrchwyd 2013-03-08.
- ↑ "Cefndir DRhM gan y [[Cenhedloedd Unedig]]". Un.org. Cyrchwyd 2012-03-08. URL–wikilink conflict (help)
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "8th of March - International woman's day: in search of the lost memory". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-13. Cyrchwyd 2014-03-14. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Suffragist Disorders". The Times. 9 Mawrth 1914. Cyrchwyd 9 Mai 2014.
- ↑ "WomenWatch: International Women's Day". Un.org. Cyrchwyd 2012-03-08.