Diwylliant Bolifia

Gwlad dirgaeedig yn Ne America yw Bolifia a chanddi'r boblogaeth frodorol uchaf o unrhyw wlad yn yr Amerig, ac mae diwylliant Bolifia felly yn adlewyrchu'n gryf ei hetifeddiaeth gynhenid, yn ogystal â rhywfaint o ddylanwadau'r gwladychwyr Sbaenaidd a gwledydd eraill America Ladin. Siaredir yr iaith Sbaeneg gan dwy ran o dair o'r boblogaeth, a'r ddwy brif iaith frodorol yw Quechua ac Aymara.

Mae celfyddydau gweledol y bobloedd frodorol ym Molifia yn adlewyrchu cysylltiad â byd natur a chredoau ysbrydol traddodiadol, gan gynnwys cosmoleg yr hen grefyddau. Mae'r celfyddydau tecstilau a serameg yn gyfryngau amlwg o gelf frodorol.

Fel rhan o Ymerodraeth Sbaen, dygwyd arddulliau a mudiadau celf Ewropeaidd i'w wlad, gan gynnwys y baróc. Nodweddid yr oes drefedigaethol gan eglwysi a chadeirlannau, allorluniau, a phaentiadau a cherfluniau Cristnogol. Bu rhai arlunwyr. cerflunwyr a phenseiri yn ceisio addasu'r dulliau Ewropeaidd i'r diwylliant brodorol, gan ymgorffori elfennau a motiffau lleol. O'r cyfuniadau hyn datblygodd celf y mestisos, sydd yn cyfleu hunaniaeth amlethnig y wlad.

Llenyddiaeth

golygu

Llên lafar gryf oedd gan y brodorion, a drosglwyddid chwedlau a straeon gwerin o genhedlaeth i genhedlaeth. Datblygodd diwylliant llythrennog y gymuned Sbaeneg yn araf o gymharu â chyn-drefedigaethau eraill Ymerodraeth Sbaen, a rhoddir y bai gan amlaf ar ddaearyddiaeth fynyddig, wledig, a thirgaeedig y wlad am hynny.[1] Yn niwedd y 19g bu ambell un yn cynhyrchu rhyddiaith a barddoniaeth yn y Sbaeneg, a fel rheol yn adlewyrchu ffasiynau llên America Ladin gyfan yn hytrach na mynegi traddodiad sydd yn unigryw i Folifia. Er enghraifft, ysgrifennodd Ricardo Jaimes Freyre (1868–1933), a aned ym Mheriw, gerddi rhydd a gafwyd dylanwad pwysig ar ddechrau'r mudiad modernista. Bolifia, Periw, ac Ecwador oedd y tair gwlad a arloesai mudiad llenyddol indigenismo yn nechrau'r 20g. Y gwaith pwysicaf gan awdur o Folifia yn genre'r nofel indigenista ydy Raza de Bronce (1916) gan Alcides Arguedas (1879–1946).[1]

Pwnc pwysig yn hanes Bolifia, ac felly yn hanesyddiaeth, hunangofiannau a ffuglen hanesyddol y wlad, ydy Rhyfel y Chaco (1932–35). Ymladdwyd y rhyfel gwaedlyd hwnnw rhwng Bolifia a Pharagwâi dros diriogaeth ogleddol Gran Chaco, a'r Paragwaiaid oedd yn drech. Mae'r gwrthdaro yn gefndir i'r nofelau Aluvión de fuego (1935) gan Oscar Cerruto (1912–81) a Sangre de mestizos (1936) gan Augusto Céspedes (1904–97). Yn hanner cyntaf yr 20g ysgrifennwyd sawl gwaith ffuglen yn ymwneud â phrofiadau'r mwyngloddwyr tun a'u cymunedau. Dyma sail i'r nofel ffeithiol El metal del diablo (1946) gan Céspedes, y nofelau En las tierras de Potosí (1911) gan Jaime Mendoza Gonzáles (1874–1939) a Los eternos vagabundos gan Roberto Leitón (1903–99), y casgliad o straeon byrion El paraje del tío y otros relatos mineros (1979) gan René Poppe, a'r testimonio Si me permiten hablar (1977) gan Domitila Barrios de Chungara (1937–2012). Yng nghanol yr 20g ffynnai mudiadau chwyldroadol a chenedlaetholgar yn y wlad, syniadau a fynegir yn groyw yn ysgrifeniadau Carlos Medinaceli (1898–1949). Wedi Chwyldro 1952, arloesodd y sosialydd Marcelo Quiroga Santa Cruz (1931–80) dueddiadau athronyddol a dirfodol yn llên Bolifia, er enghraifft yn ei gampwaith Los deshabitados (1957). Mae Jaime Saénz (1921–86) yn nodedig am ei ffuglen ddychanol am fywyd y ddinas. Enillwyd Gwobr Casa de las Américas gan Renato Prada Oropeza (1937–2011) am ei nofel Los fundadores del alba (1969), sy'n ymwneud â chyfnod Che Guevara ym Molifia, a chan y bardd Pedro Shimose (ganwyd 1940) am ei gyfrol Quiero escribir, pero me sale espuma (1972).[1]

Chwaraeon

golygu

Pêl-droed yw'r gêm fwyaf boblogaidd ym Molifia. Mae'r tîm cenedlaethol, a adwaenir gan y llysenw El Verde, yn cystadlu yn y Copa América.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Josefa Salmón, "Bolivia" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature, 1900–2003 golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), tt. 72–73.