Docusad

cyfansoddyn cemegol

Mae docusad, a elwir hefyd yn halwynau docusad neu dioctil sulffosucinad, yn garthydd o'r math sy'n meddalu carthion a ddefnyddir i drin rhwymedd[1]. Fe'i hystyrir yn ddewis da mewn plant sydd a charthion caled. Ar gyfer rhwymedd sy'n digwydd fel sgil effaith defnydd cysglyn, fe ellir ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu gyda charthydd symbylydd. Gellir ei gymryd fel capsiwl trwy'r genau neu fel tawddgyffur yn y pen ôl.  Fel rheol mae'n gweithio o fewn un i dri diwrnod.

Docusad
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs444.216 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₀h₃₇nao₇s edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sgil effeithiau golygu

Mae sgil effeithiau yn anghyffredin. Yn achlysurol bydd claf yn cael crampiau yn yr abdomen neu'r dolur rhydd. Mae effeithlonrwydd yn lleihau gyda defnydd hirdymor, a gall arwain at broblemau gweithrediad y coluddyn. Mae docusad yn iawn i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd a bwydo ar y fron[2].

Mecanwaith golygu

Mae'n gweithio trwy ganiatáu i fwy o ddŵr gael ei amsugno gan yr ysgarthion. Fel arfer mae'n dod ar ffurf sodiwm, calsiwm, neu halen potasiwm.

Argaeledd golygu

Mae ducosad ar gael trwy ragnodiad neu o fferyllfa pan fydd fferyllydd cymwys yn bresennol. Mae ar gael fel cyffur generig neu o dan yr enwau brand Dioctyl®; Docusol®; DulcoEase®; Norgalax®

Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "DOCUSATE SODIUM". NICE / BNF. Cyrchwyd 09/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "Docusate". NHS UK. Cyrchwyd 09/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)[dolen marw]