Dogfael
sant
Sant a thywysog oedd Dogfael neu Dogfael ap Ithel (g. 470); weithiau defnyddir yr amrywiad Dogmael.
Dogfael | |
---|---|
Ganwyd | 470 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 14 Mehefin |
Tad | Ithel ap Ceredig |
Yn ôl y traethodyn achyddol Bonedd y Saint a sgwennwyd yn 1140 roedd yn fab i Ithel ap Ceredig ap Cunedda, ac felly cysylltir ef ag un o dri llwyth saint Cymru.[1][2] Dethlir ei wylmabsant ar 14 Mehefin a hefyd ar 31 Hydref yn flynyddol.
Eglwysi
golygu- Eglwys Sant Dogfael a elwir hefyd yn Llandudoch, Cemais, Ceredigion ac a oedd ar un cyfnod yn fynachlog. Y tebygrwydd yw mai'r eglwys ei hun oeddSant Dogfael ar un cyfnod, a'r tir o'i gwmpas oedd Llandudoch; tir dyn o'r enw Dudoch.
- Dogfael hefyd oedd nawddsant eglwys Sant Dogfael ger Cas-blaidd - rhwng Hwlffordd ac Abergwaun
- Sant Dogmael, Mynachlog-ddu (neu weithiau 'Sant Dogfael') a
- St Dogmael Plwyf Melinau yn Esgobaeth Tyddewi, gogledd Penfro
- Llanddogwel, Ynys Môn
Ceir cyfeiriadau at sant o'r enw Dogmael hefyd yn Llydaw.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Bonedd y Saint: (§2) in EWGT tt.20, 55.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.