Mwynfeydd aur Dolaucothi

mwynfeydd aur
(Ailgyfeiriad o Dolaucothi)

Mwynfeydd aur o’r cyfnod Rhufeinig, ac yn ôl pob tebyg cyn hynny, yn Sir Gaerfyrddin yw Mwynfeydd Aur Dolaucothi. Saif y mwynfeydd gerllaw Afon Cothi, ychydig i’r dwyrain o bentref Pumsaint, a rhwng y pentref hwnnw a phentref Caeo. Dolaucothi yw’r unig fwynfeydd aur yng Nghymru tu allan i ardal Dolgellau.

Mwynfeydd aur Dolaucothi
Mathgold mine, safle archaeolegol, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.042709°N 3.951051°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN6637240172 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCM208 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

 
Gweithwir yn y mwyn tua 1938
 
Mwynfeydd aur Dolaucothil

Ceir tystiolaeth archaeolegol i gloddio am aur ddechrau yma yn ystod Oes yr Efydd. Gweithiwyd y mwynfeydd ar raddfa sylweddol gan y Rhufeiniaid o tua 75 O.C. hyd tua 140. Ceir yma dystiolaeth o ddefnydd cynnar iawn o bwer dŵr i weithio morthwylion i falu’r graig a’r aur ynddi. Mae ffordd Rufeinig Sarn Helen gerllaw.

Adfywiwyd y mwynfeydd am gyfnod byr yn y 19g, ac yn y 1930au bu ymgais i ddarganfod haenau aur newydd. Caewyd y gwaith eto yn 1938. Yn 1941 daeth yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae ar agor i’r cyhoedd.

Cadwraeth golygu

Mae'r safle wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1954 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 18.92 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu