Donald Coleman
Gwleidydd o Gymro oedd Donald Richard Coleman (19 Medi 1925 – 14 Ionawr 1991). Roedd yn aelod Llafur Cymreig ac yn Aelod Seneddol Llafur-Cydweithredol etholaeth Castell-nedd o 1964 hyd ei farwolaeth ym 1991 [1]
Donald Coleman | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1925 y Barri |
Bu farw | 14 Ionawr 1991 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | CBE |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Coleman yn y Barri, yn fab i Albert Archer Coleman, a Winifred Margurite (née Russell) ei wraig. Am gyfnod maith yn ystod ieuenctid Coleman bu ei dad yn ddiwaith gan wneud taclo diweithdra yn un o brif nodweddion ei yrfa wleidyddol.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Bechgyn Tregatwg a Choleg Technegol Caerdydd. Bu'n fyfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 1950 a 1954.
Priododd Phyllis Eileen Williams ym 1949, bu iddynt un mab; bu hi farw ym 1963. Ym 1966 priododd Margaret Elizabeth Morgan fu iddynt un ferch.
Gyrfa
golyguBu Coleman yn gweithio fel technegydd labordy yn Ysgol Meddygol Cenedlaethol Cymru, Caerdydd o 1940 hyd 1942, fel technegydd yn Labordy ymchwil i'r diciâu, Caerdydd 1942-1946 ac fel prif dechnegydd Coleg Technoleg Abertawe o 1946 i 1950. Cafodd ei benodi yn metalegydd yn Adran Ymchwil Cwmni Dur Cymru, yng Ngweithfeydd yr Abaty, Port Talbot ar ôl graddio o 'r Brifysgol gan barhau yn y swydd hyd ei ethol i'r senedd.[2]
Fel technegydd ymunodd ag undeb llafur Cymdeithas y Gweithwyr Gwyddonol ac wedi symud i Gwmni Dur Cymru daeth yn aelod o undeb BISAKTA (Cymdeithas Haearn, Dur a Chrefftau Cyffelyb Prydain). Roedd yn aelod o'r corff proffesiynol y Cydffederasiwn Masnachau Haearn a Dur.
Gyrfa wleidyddol
golyguYmunodd Coleman a'r Blaid Lafur ym 1948 a'r Blaid Cydweithredol ym 1955.
Yn groes i'r disgwyl cafodd ei ddewis yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Castell-nedd ar ymddeoliad David James Williams. Hyd ddewis Coleman ystyrid Castell-nedd fel etholaeth lofaol lle byddai enwebiad gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn fantais sylweddol yn y gynhadledd dewis, er ei fod yn ddyn dur yn hytrach na dyn glo enillodd Coleman yr enwebiad ar y bedwaredd rownd o bleidleisio, gan etifeddu un o'r seddau Llafur mwyaf diogel Prydain.
Yn y Senedd bu Coleman yn gwasanaethu fel ysgrifennydd seneddol preifat i George Thomas, Eirene White a Cledwyn Hughes. Gwasanaethodd fel chwip yr wrthblaid o 1970 hyd 1974, Arglwydd y Trysorlys (chwip y Llywodraeth) o 1974 hyd 1978, Is-Ganhellor yr Aelwydydd (yn gyfrifol am baratoi adroddiad Seneddol i'r Frenhines) o 1978 hyd 1979, a llefarydd y wrthblaid ar faterion Cymreig o 1981 hyd 1983. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cynrychiolydd Prydain ar Gyngor Ewrop.
Cyhoeddodd Coleman yn gynnar ym 1990 ei fod yn bwriadu sefyll i lawr o'r Senedd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf ond bu farw yn y cyfamser.[3]
Gwasanaeth cyhoeddus amgen
golyguRoedd Coleman yn aelod o gorws y Cwmni Opera Cenedlaethol, lle perfformiodd fel tenor unawdydd a Chwmni Opera Amatur Abertawe. Fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch ar fainc bwrdeistref Abertawe ym 1962. Dyfarnwyd y CBE iddo ym 1979, a chafodd ei benodi'n Ddirprwy Raglaw Gorllewin Morgannwg ym 1985
Marwolaeth
golyguBu farw o drawiad ar y galon mewn ambiwlans ar y ffordd o Dŷ'r Cyffredin i'r Ysbyty,[4] ond gan fod traddodiad nad oes hawl i farw yn y Senedd mae'n bosib ei fod wedi marw yn ei swyddfa seneddol[5]
Cafodd ei weddillion eu llosgi yn amlosgfa Margam.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur COLEMAN, DONALD RICHARD (1925-1991), gwleidydd Llafur adalwyd 11 Awst 2016
- ↑ ‘COLEMAN, Donald Richard’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920-2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 10 Aug 2016
- ↑ "Donald Coleman." Times [London, England] 16 Jan. 1991: 20. The Times Digital Archive. Web. 11 Aug. 2016.[1]
- ↑ "Labour MP dies." Times [London, England] 15 Jan. 1991: 2. The Times Digital Archive. Web. 11 Aug. 2016. [2]
- ↑ Don't die in parliament, it's the law
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David James Williams |
Aelod Seneddol Castell-nedd 1964 – 1991 |
Olynydd: Peter Hain |