George Thomas

gwleidydd Llafur a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin

Gwleidydd Llafur oedd Thomas George Thomas, Is-iarll Tonypandy (29 Ionawr 190922 Medi 1997); bu'n Aelod Seneddol rhwng 1945 a 1983, yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru (5 Ebrill 1966 – 5 Ebrill 1968) ac yn Llefarydd y Tŷ'r Cyffredin (3 Chwefror 1976 – 10 Mehefin 1983). Ef, yn anad neb arall, a groesawodd Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969; roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn drwy drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.

George Thomas
Ganwyd29 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
Port Talbot, Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw22 Medi 1997 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddLlefarydd Tŷ'r Cyffredin, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Chairman of Ways and Means, Minister of State for Commonwealth Affairs, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Cartref, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Fel is-Weinidog yng Nghabined Harold Wilson ef oedd un o'r cyntaf i gyrraedd Trychineb Aberfan yn 1966. Daeth i sylw'r cyhoedd pan ddechreuwyd darlledu trafodaethau'r Tŷ'r Cyffredin ag yntau'n Llefarydd.

Y person

golygu

Ganed Thomas ym Mhort Talbot a gweithiodd fel athro yn Llundain ac yng Nghaerdydd. Roedd yn fab i löwr, Zachariah Thomas, a siaradai Gymraeg, ac a oedd o Gaerfyrddin ac Emma Jane Tilbury, merch un o sefydlwyr achos Methodistiaeth Saesneg yn Nhonypandy. Roedd hi'n hanu o Lanfield, Hampshire. Bu'n aelod o'r Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes a phregethodd yn eu capeli.

Roedd ei dad yn feddwyn a adawodd ei wraig, gan ei gadael i fagu pump o blant ar ei phen ei hun. Magwyd George Thomas gan ei fam ym mhentref Trealaw yn groes i'r afon o dref Tonypandy. Mynychodd Ysgol Ramadeg Tonypandy, 1920-27. Bu'n athro heb drwydded yn Dagenham cyn dilyn cwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Southampton rhwng 1929 a 1931.

Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1924 a thraddododd ei araith wleidyddol gyntaf pan oedd yn ddeunaw oed i 'Gynghrair Cydweithredol Merched Tonypandy'.

Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1983 ond yn 2014–15 cafwyd nifer o gyhuddiadau ei fod wedi bocha gyda phlant mewn modd rhywiol.[1] Datgelodd cydaelod Seneddol Leo Abse yn ei lyfr Tony Blair: The Man Behind the Smile ychydig wedi i George Thomas ymddeol o wleidyddiaeth ei fod yn hoyw a'i fod wedi talu nifer o bobl i fod yn dawel am y wybodaeth yma, rhag ei wneud yn gyhoeddus.[2]

Honiadau o gam-drin rhywiol

golygu

Ym mis Gorffennaf 2014, fe adroddodd papurau newydd bod Heddlu De Cymru yn archwilio honiadau bod Thomas wedi cam-drin bachgen 9 oed yn rhywiol yn y 1960au hwyr.[3][4]. Yn mis Mawrth 2015 fe cadarnhawyd Heddlu De Cymru eu bod nhw yn archwilio camdriniaeth rhywiol honedig.[5] Daeth yr archwiliad i ben ym mis Mawrth 2017 heb unrhyw weithred pellach.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y BBC; adalwyd 9 Awst 2015
  2. Abse, Leo (2001). Tony Blair: The Man Behind the Smile. Robson Books. ISBN 1-86105-364-9.
  3. https://www.theguardian.com/politics/2014/jul/19/police-investigate-sex-abuse-claims-labour-peer-viscount-tonypandy
  4. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/police-launch-investigation-historic-sex-7458231
  5. https://www.bbc.co.uk/news/uk-32009589
  6. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/39279576
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Ernest Bennett
Aelod Seneddol dros Caerdydd Canolog
19451950
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd
19501983
Olynydd:
Stefan Terlezki
Rhagflaenydd:
Selwyn Lloyd
Llefarydd y Tŷ
Chwefror 197610 Mehefin 1983
Olynydd:
Bernard Weatherill
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Cledwyn Hughes
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
5 Ebrill 196820 Mehefin 1970
Olynydd:
Peter Thomas