Agor y brif ddewislen

Etholiad lle mae pob aelod (neu'r 'mwyafrif') o unrhyw gorff gwleidyddol i'w ethol yw etholiad cyffredinol. Arferir y term fel rheol i gyfeirio at etholiadau i brif gorff deddfwriaethol cenedl neu wladwriaeth, mewn cyferbyniaeth ag is-etholiadau ac etholiadau lleol.

GeirdarddiadGolygu

Mae'r term yn tarddu o system etholiadol y Deyrnas Unedig lle ceir etholiadau cyffredinol i ethol Aelodau Seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, ond fe'i defnyddir i gyfeiro at etholiadau tebyg mewn sawl gwlad arall bellach.[1]

Gwledydd PrydainGolygu

Yma, mae'r term fel arfer yn cyfeirio at etholiad cenedlaethol ym mhob etholaeth seneddol ar yr un diwrnod Aelodau Seneddol, lle etholir hwy i San Steffan. Ni ddefnyddir y term i gyfeirio at etholiadau i Gymulliad Cymru, ond mae Adran 2 o Ddeddfwriaeth yr Alban, 1998, yn ei ddefnyddio yngh nghyd-destun ethol aelodau i Senedd yr Alban.[2]

Yng ngwledydd Prydain rhaid cynnal etholiad cyffredinol o fewn pum mlynedd ac un mis o ennill grym, yn unol â deddf Fixed-term Parliaments Act 2011. Ceir eithriad i hyn pan fo'r Tŷ'r Cyffredin yn pasio pleidlais o ddiffyg ffydd yn y Llywodraeth cyn hynny, neu os yw dau draean (2/3) o aelodau'r Tŷ yn pleidleisio dros ei gynnal ynghynt. Yn ystod y ddau Ryfel Byd, newidiwyd y tymor e.e. gohiriwyd Etholiad Cyffredinol 1910 i Dachwedd 1918 ac felly hefyd gyda Etholiad Cyffredinol a fwriadwyd ei gynnal yn Nhachwedd 1935, ac a ohiriwyd tan Mehefin 1945. Mae gan Dŷ'r Arglwyddi feto ar y gohirio, fodd bynnag.

Yn wreiddiol, roedd y broses o ethol yn cymrys sawl wythnos, ac nid un diwrnod. Cynhaliwyd y bleidlais ar ddiwrnodau gwahanol mewn etholaethau gwahanol. Yn 1911 newidiwyd hynny gan ddeddfwriaeth. Ers 1931 cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol ar Ddydd Iau, ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Diffiniad o 'etholioad' yng Ngeiriadur y Brifysgol yw: 'Y weithred o ethol, dewisiad; dewisiad i swydd drwy bleidlais, yn enw. aelodau corff cynrychioliadol (e.e. y senedd, y cyngor sir), lecsiwn; yr holl drefniant ynglŷn â’r cyfryw ddewisiad.'
  2. Scotland Act 1998 (c. 46) - 2. Ordinary general elections
1801 cyfethol | 1802 | 1806 | 1807 | 1812 | 1818 | 1820 | 1826 | 1830 | 1831 | 1832 | 1835 | 1837 | 1841 | 1847 | 1852 | 1857 | 1859 | 1865 | 1868 | 1874 | 1880 | 1885 | 1886 | 1892 | 1895 | 1900 | 1906 | 1910 (Ion) | 1910 (Rhag) | 1918 | 1922 | 1923 | 1924 | 1929 | 1931 | 1935 | 1945 | 1950 | 1951 | 1955 | 1959 | 1964 | 1966 | 1970 | 1974 (Chwe) | 1974 (Hyd) | 1979 | 1983 | 1987 | 1992 | 1997 | 2001 | 2005 | 2010 | 2015 | 2017
Refferenda y Deyrnas Unedig  
1975 | 2011 | 2016