Donore, Sir Meath
Dún Uabhair, Donore neu'n hanesyddol, Dunower yn Saesneg.( Irish </link></link> Pentref bychan yn Sir Meath, Iwerddon, a'i enw sy'n golygu "caer balchder"), [1]. Saif ger Droichead Átha/Dogheda ar y ffin rhwng Sir Meath a Sir Louth, yn Nyffryn Boyne ar y ffordd rhwng Droichead Átha a safle treftadaeth Brú na Bóinne . Mae'r pentref mewn plwyf sifil o'r un enw. [2]
Ar ddiwedd yr 17eg ganrif, defnyddiwyd y pentref fel safle amddiffynnol gan fyddin Jacobitaidd y Brenin Iago II yn erbyn y Brenin William III yn ystod Brwydr y Boyne (1690). Mae Canolfan Ymwelwyr Brwydr y Boyne wedi’i lleoli yn Oldbridge House o’r 18fed ganrif wedi’i adfer, sydd ar safle’r frwydr, tua 3. km i'r gogledd o Dún Uabhair.
Cynyddodd poblogaeth y pentref gan fwy na dyblu ar ddechrau'r 21ain ganrif, gan dyfu o 334 o drigolion yng nghyfrifiad 2002 i 760 yng nghyfrifiad 2016 . [3] Erbyn hyn mae gan Dún Uabhair dafarn a bwyty, siopau, siop tecawê a siop trin gwallt.
Enw'r tîm pêl-droed Gaeleg lleol yw St Mary's.
Adeiladwyd Eglwys Gatholig y Santes Fair, sydd yng nghanol pentref Dún Uabhair, rhwng c.1840. [4]
Trafnidiaeth gyhoeddus
golyguGwasanaethir DúnUabhair gan lwybr trafnidiaeth 163 Bus Éireann rhwng Droichead Átha a Chanolfan Ymwelwyr Brú na Bóinne. [5] Yr orsaf reilffordd agosaf yw gorsaf reilffordd Droichead Átha tua 6 cilomedr i ffwrdd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mills, A.D (2011). A Dictionary of British Place Names. Oxford: Oxford University Press. ISBN 9780199609086.
Donore (Dún Uabhair) Meath. ‘Fort of pride’.
- ↑ "Dún Uabhair/Donore". Placenames Database of Ireland. Cyrchwyd 28 April 2024.
- ↑ "Donore (Ireland) Census Town". City Population. Cyrchwyd 13 February 2020.
- ↑ "Saint Mary's Roman Catholic Church, Donore, County Meath". buildingsofireland.ie. National Inventory of Architectural Heritage. Cyrchwyd 13 February 2020.
- ↑ "Christmas & New Year Travel Arrangements - Travel anywhere in Ireland by bus or coach with Bus Éireann e.g. Dublin, Cork, Galway, etc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-29.