Bus Éireann
Bus Éireann (/ bˠɔsˠ eːɾʲən̪ˠ /, "Bws Iwerddon") yw'r cwmni bysiau rhyng-wasanaeth sy'n gwasanaethu Iwerddon, ac eithrio Swydd Dulyn sy'n cael ei wasanaethu gan Dublin Bus.
Broadstone July 2008, coaches awaiting wash and fuel - Flickr - D464-Darren Hall.jpg | |
Pencadlys y cwmni yw'r Busáras - yr orsaf fysiau ganolog yn Nulyn.
Hanes
golyguCrëwyd Bus Éireann ym mis Chwefror 1987 yn ystod rhaniad Córas Iompair Éireann (CIÉ). Mae logo Bus Éireann yn ymgorffori Cyfeirgi Gwyddelig, brîd o gi sy'n frodorol o Iwerddon. Gellir gweld bod dylanwad logo enwog Greyhound ar bysiau Greyhound Lines, yr UDA.[1] Mae wedi bod trwy sawl newid ers hynny.
Gwasanaethau
golyguMae Bus Éireann yn gwsanaethu Gweriniaeth Iwerddon yn greiddiol gydag Ulster Bus yn gwasanaethu Gogledd Iwerddon. Serch hynny, mae prif wasanaethau bysiau Éireann yn y Weriniaeth ac Ulster Bus yn y Gogledd yn cydblethu ac yn cynnwys y gwasanaethau teithio a chludo ar draffyrdd (intercity), trafnidiaeth leol, ysgol i ysgol. Mae gwasanaethau ychwanegol yn Iwerddon yn cynnwys gwasanaethau trefol yn ninasoedd Corc, Galway, Limerick a Waterford, a gwasanaethau trefol yn Athlone, Balbriggan, Drogheda, Dundalk, Navan a Sligo.
Mae bysiau Eireann yn gweithredu gwasanaethau rhyngwladol i Brydain Fawr ac Ewrop trwy borthladdoedd Dulyn a Rosslare Europort. Y dinasoedd a wasanaethir yw Llundain, Birmingham, Manceinion, Lerpwl a Leeds. Gweithredir y rhain o dan frand Eurolines.
Fflyd
golyguBysiau nwy naturiol
golyguCyflwynodd Bus Éireann yr NGV cyntaf ar 17 Gorffennaf 2012 yng Nghorc. Mae'n gweithredu ar lwybr 216 (Ysbyty Prifysgol Cork - Canol Dinas Cork - Mount Oval) tan ganol Awst 2012 mewn partneriaeth ag Ervia. MAN sy'n gwneud y bws Eco-ddinas.[2]
Cerbydau
golyguYm mis Ionawr 2018 mae'r fflyd yn cynnwys 1,200 o fysiau a choetsys.[3] Mae'r cwmni'n defnyddio bysiau a adeiladwyd gan gwmnïau fel Scania, VDL Berkhof a Volvo yn bennaf. Buddsoddwyd fflyd Bus Éireann yn y Cynllun Datblygu Cenedlaethol. Mae mwyafrif helaeth y fflyd weithredol ar gyfer gwasanaethau gwibffordd, cymudwyr a lleol bellach yn bum mlwydd oed neu'n llai.
Gwasanaethau Twristiaeth
golyguMae Bus Éireann yn trefnu teithiau dydd arbennig o amgylch Dulyn i leoedd fel Glendalough, Newgrange; o Gorc, tripiau dydd i Ring of Kerry, County Clare, West Cork ac Ynys Cape Clear; a Galway, ymweliadau â Conamara a Burren.
Cystadleuaeth
golyguYn ogystal â Bus Éireann, mae yna ychydig o gwmnïau eraill, sy'n cystadlu am deithiwyr nad sydd yn gallu neu eisiau teithio mewr car. Ceir gwasanaethau bws rhwng rhai o brif ddinasoedd Iwerddon, fel Citylink, JJ Kavanagh, aircoach neu Translink. Mae Bus Éireann hefyd mewn cystadleuaeth ag Iarnród Éireann, gwasanaeth rheilffyrdd Iwerddon.
Ffigurau
golyguYn 2007, mae'n debyg bod y cwmni wedi cludo 96 miliwn o deithwyr.[4]
Yn 2019 nodwyd bod y gwasanaeth wedi gweld nifer uchaf o deithwyr mewn deng mlynedd ** Bu tŵf yn refeniw y cwmni i 10% gan gynnaedd €390 miliwn yn y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2018 er ei bod dal mewn dyled ar y pryd. Gwelwyd 83.6 miliwn o deithwyr yn 2018 gan gynnwys 120,000 disgybl ysgol yr wythnos a thŵf o 13% mewn dinasoedd rhanbarthol megis Corc, Galway, Limerick a Waterford.[5]
Logos
golygu-
Logo Bus Éireann, 1987–2000
-
Logo Bus Éireann, 2000–2007
-
Logo Bus Scoile, gwasanaeth i ysgolion
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.greyhound.com
- ↑ Natural gas bus hits the streets in bid to cut fuel bill Irish Examiner 17 July 2012
- ↑ Our Fleet Archifwyd 2019-12-10 yn y Peiriant Wayback Bus Éireann
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-03-18. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ https://www.irishtimes.com/business/transport-and-tourism/passenger-numbers-reach-10-year-high-at-bus-%C3%A9ireann-1.3898061