Doris Hare

actores

Actores, canwr, dawnswraig a chomedïwr o Gymru oedd Doris Hare, MBE (1 Mawrth 1905 - 30 Mai 2000). Mae'n fwyaf adnabyddus am fod yr ail actores i bortreadu Mrs Mabel Mum Butler yn y comedi sefyllfa poblogaidd On the Buses ochr yn ochr â Reg Varney.[1]

Doris Hare
Ganwyd1 Mawrth 1905 Edit this on Wikidata
Bargod Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 2000 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Northwood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Ieuenctid

golygu

Ganwyd Hare ym Margod, Morgannwg. Roedd gan ei rhieni theatr gludadwy yn Ne Cymru ac roedd hi'n anochel y byddai hi'n rhan ohono, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf cyn troi'n dair blwydd oed yn y drama Current Cash. Bu hefyd yn ymddangos mewn cwmnïau ieuenctid ledled Prydain fel plentyn. Cyflwynodd act unigol fel Little Doris Hare, yn ymddangos mewn neuadd gerddoriaeth, cabaret, rifiwiau a phantomeimau. Roedd un o'i bum brawd, Bertie Hare a'i chwiorydd Betty Hare a Winifred Hare Braemer hefyd yn actorion a pherfformwyr.

Gyrfa fel oedolyn

golygu

Yn 1930, bu'r actores yn teithio yn The Show's The Thing, gan gymryd rhan a wnaed yn enwog gan Gracie Fields. Ym 1932, ymddangosodd hi yn y West End yn sioe Noël Coward, Words and Music [2] ar y cyd â John Mills. Ym 1936, ymddangosodd ar Broadway am y tro cyntaf yn Night Must Fall. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymunodd â Evelyn Laye i gyflwyno rifíw i'r milwyr a chyflwynodd Shipmate's Ashore ar raglen ar orsaf radio BBC Forces ar gyfer y Llynges Fasnachol, gan ennill MBE am ei chyfraniad ym 1946.

Ym 1963 ymunodd â'r Royal Shakespeare Company ac ym 1965 ymunodd â'r National Theatre yn yr Old Vic. Bu'n actio mewn dramâu gan Shakespeare, Shaw, Pinero, a Pinter.[3]

Wedi gwrthod rôl Ena Sharples yn Coronation Street ym 1960, bu Hare yn chwarae Alice Pickens yn y gyfres ym 1969. Roedd hi i fod i briodi Albert Tatlock, ond ni fu'r briodas.[4]

Hefyd ym 1969, daeth Hare at sylw'r gynulleidfa teledu yn rôl Mrs Butler yn On the Buses, gan gymryd y rôl drosodd gan Cicely Courtneidge yn ail gyfres y comedi gan ITV. Bu'r gyfres yn rhedeg tan 1973 ac wedi ysbrydoli tair ffilm On the Buses (1971), Mutiny on the Buses (1972) a Holiday on the Buses (1973) lle cafodd Hare ail greu ei rôl sgrin fach ar y sgrin fawr. .[1] Fe wnaeth y cast hefyd berfformio fersiwn llwyfan o'r gyfres boblogaidd yn Vancouver, British Columbia, Canada, ym 1988.

Yn 1974, treuliodd Hare flwyddyn yn y ffars West End, No Sex Please, We're British, a gwnaeth ei hymddangosiad llwyfan olaf yn 87 mlwydd oed, ym Mhaladiwm Llundain ochr yn ochr â John Mills mewn teyrnged i Evelyn Laye.

Enillodd Hare Gwobr Arbennig Clwb Amrywiaeth Prydain Fawr am ei chyfraniadau i fusnes adloniant ym 1982. Bu farw yn Denville Hall, cartref ymddeol i actorion yn Northwood, Llundain yn 2000, yn 95 mlwydd oed.

Priododd Doris Hare a Dr Fraser Roberts bu iddynt dwy ferch Susan a Catherine [5]

Ffilmograffeg ddethol

golygu

[6]

Cyfeiriadau

golygu