Edern Dafod Aur

Ysgrifennwr Cymraeg
(Ailgyfeiriad o Dosparth Edeyrn Dafod Aur)

Gramadegydd Cymraeg canoloesol oedd Edern Dafod Aur (neu Edeyrn (neu Edyrn) Dafod Aur) (bl. 13g efallai). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel "awdur" tybiedig Dosparth Edeyrn Dafod Aur, fersiwn o ramadeg y beirdd a gyhoeddwyd yn y 19g.

Edern Dafod Aur
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgramadegydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1280 Edit this on Wikidata

Tystiolaeth

golygu

Ychydig iawn a wyddys amdano. Ceir cyfeiriadau dilys ato mewn rhai o gerddi Beirdd yr Uchelwyr. Cyfeiria Gruffudd Hiraethog (m. 1564) at "dafod Edern" mewn awdl foliant i Elis Prys o Blas Iolyn. Cyfeiria Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan at "ddull Edern Dafod Aur" yn ei farwnad i'r prifardd Tudur Aled (m. tua 1525).[1] Ceir cyfeiriad ato hefyd gan Dafydd Benwyn yn ei gywydd marwnad i'w athro barddol Rhisiart Iorwerth o Dir Iarll ym Morgannwg.[2]

Credir i Edern lunio dosbarth bychan ar lythrennau'r Gymraeg ac ar ffurfiau geiriau. Yn ôl yr hynafiaethydd John Davies o Fallwyd, blodeuai Edern tua 1280, ond mae'r gramadegau barddol sydd ar glawr heddiw yn dyddio o'r 15g.[3]

Ffugiad Iolo Morganwg

golygu

Tadogodd y ffugiwr traddodiadau Iolo Morganwg fersiwn o ramadeg y beirdd arno, efallai ar sail y cyfeiriad gan Dafydd Benwyn (gweler uchod), a'i gysylltu â Thir Iarll a Morgannwg.[4] Ond cysylltir y llyfrau gramadeg barddol canoloesol gyda Dafydd Ddu Athro o Hiraddug ac Einion Offeiriad. Cyhoeddwyd testun gwallus a chamarweiniol wrth y teitl Dosparth Edeyrn Davod Aur gan John Williams (Ab Ithel) ar ran y Welsh Manuscripts Society yn 1856.[5] Oherwydd y cyhoeddiad hwnnw a chyfeiriadau eraill gan Iolo Morganwg, daeth Ede[y]rn Dafod Aur yn adnabyddus i Gymry darllengar ac eraill a ymddiddorai yn y traddodiad barddol Cymraeg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. D. J. Bowen (gol.), Gwaith Gruffudd Hiraethog (Caerdydd, 1990), tud. 482.
  2. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tud. 33.
  3. Gwaith Gruffudd Hiraethog, tud. 482.
  4. Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 33.
  5. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Dolenni allanol

golygu