Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan (bl. 1530). Yn enedigol o Dreffynnon yn Sir y Fflint, fe'i cofir yn bennaf am ei gywydd marwnad i'w athro barddol, Tudur Aled.

Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Dim ond ychydig o waith y bardd sydd ar glawr heddiw. Yn ogystal â'i farwnad i Dudur Aled ceir cerddi mawl i noddwyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru megis Syr Hywel o Chwitffordd a Thomas Pennant abad Dinas Basing, cerddi crefyddol i'r Santes Catrin ac i'r Santes Gwenffrewi (nawddsantes Treffynnon), a cherddi ysgafnach ar bynciau amrywiol.

Llyfryddiaeth golygu

Erys y rhan fwyaf o gerddi'r bardd heb eu cyhoeddi. Ceir testun golygiedig o'i farwnad i Dudur Aled yn:

  • T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926), Cyfrol II, Atodiad VIII.