Robert Gwyn
Reciwsant o Gymro ac awdur Cymraeg oedd Robert Gwyn (tua 1540/1550 - 1592/1604). Fe'i adnabyddir weithiau fel Robert Wyn, Robert Jones neu Robert Johns Wyn hefyd. Cred rhai ysgolheigion mai ef yn lle ei gymrodor Gruffydd Robert oedd awdur Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru.[1]
Robert Gwyn | |
---|---|
Ganwyd | c. 1540 |
Bu farw | 1604 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Blodeuodd | 1568 |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn fab i Siôn Wyn ap Thomas Gruffudd o Benyberth, ger Pwllheli (safle'r ysgol fomio a losgwyd yn 1936 gan Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine), a'i wraig Catrin.[2]
Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Corff Crist, Rhydychen, lle graddiodd yn 1568. Ymunodd â'r Pabyddion alltud yn Douai yn 1571. Graddiodd o Goleg Douai yn 1575 a'i ordeinio'n offeiriad Catholig. Dychwelodd i Gymru fel cenhadwr cudd. Ymwelai â sawl rhan o'r wlad yn ceisio amddiffyn y Ffydd Gatholig, yn cynnwys Llŷn, ardal Maelor, Dyffryn Wysg, Morgannwg a Gwent. Daeth i gysylltiad â'r gramadegydd ac awdur Siôn Dafydd Rhys a chydweithiai ag ef i geisio cyhoeddi llyfrau Catholig yng Nghymru yn y ddirgel.[2]
Cyfansoddodd sawl cyfrol yn y Gymraeg. Honnir mai ef yw awdur Cymraeg mwyaf cynhyrchfawr yr 16g. Ei lyfr mwyaf adnabyddus yw Gw[a]ssanaeth y Gwŷr Newydd (1580). Mae rhai ysgolheigion yn credu mai ef yw awdur Y Drych Cristianogawl (Gruffydd Robert yw'r awdur yn ôl eraill), ac ymddengys yn debygol fod hynny'n wir.[2]
Cyhoeddwyd y Drych gyda chymorth Puwiaid Hen Neuadd Penrhyn, ger Rhiwledyn, Llandudno. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl. Llochasant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. Darganfuwyd yr ogof tua dwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r Ddrych ond roedd pawb wedi dianc. Cafodd William Davies, gŵr lleol o Groes-yn-Eirias (Bae Colwyn heddiw) ei ddal gan yr awdurdodau a'i ddienyddio trwy ei dynnu, crogi a chwarteru yng Nghastell Biwmares ym mis Gorffennaf 1593.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Gwaith Robert Gwyn
- Y Drych Cristianogawl (neu Gruffydd Robert)
- Gwssanaeth y Gwŷr Newydd. 1580.
- Astudiaethau
- Geraint Bowen (gol.), Gwssanaeth y Gwŷr Newydd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1970)