John Roberts (sant)

mynach Benedictaidd a merthyr

Mynach Benedictaidd a merthyr Catholig Cymreig oedd John Roberts (1576 - 10 Rhagfyr 1610). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 25 Hydref. Roedd yn un o brif sefydlwyr Coleg Sant Gregory, Douai, Ffrainc.

John Roberts
Ganwyd1577 Edit this on Wikidata
Trawsfynydd Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1610 Edit this on Wikidata
Tyburn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl25 Hydref Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Nhrawsfynydd yn fab i Robert, mab Ellis ap William ap Gruffydd, Rhiwgoch. Cafodd ei fagu fel Protestant, a'i addysgu yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Wedi gadael Rhydychen heb gymeryd gradd yn 1598, bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod cyn mynd i deithio ar y Cyfandir.

 
Sant madryn, trawsfynydd, lle bedyddiwyd Roberts.

Pan oedd ym Mharis, trodd yn Babydd, ac aeth i astudio i Goleg Jeswitaidd Sant Alban, Valladolid. Wedi bod yno am flwyddyn, ymunodd ag Urdd Sant Bened, a chymerodd yr enw Fra Juan de Mervinia. Oddi yno aeth i Abaty Sant Martin, Santiago de Compostela, lle gwnaeth ei broffes fel mynach tua diwedd 1600. Bu'n astudio yn Salamanca, a chafodd ei ordeinio yn offeiriad yn 1602. Yn Ebrill 1603 aeth i Loegr fel cenhadwr. Daliwyd ef gan yr awdurdodau bedair gwaith, a'i ddedfrdu i alltudiaeth. Roedd yn un o brif sefydlwyr Coleg Sant Gregory, Douai yn 1606-7, ac yn brior cyntaf y coleg. Dychwelodd i Loegr eto, a phan ddaliwyd ef am y pumed tro yn 1610, rhoddwyd ef ar brawf am deyrnfradwriaeth, a dienyddiwyd ef trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru yn Tyburn, Llundain ar 10 Rhagfyr.

Canoneiddio golygu

Ar 25 Hydref 1970, canoneiddiwyd ef gan Pab Pawl VI fel un o Ddeugain Merthyr Lloegr a Chymru i gynrychioli'r holl Gatholigion a ferthyrwyd yn Lloegr a Chymru rhwng 1535 a 1679.

Cyfeiriadau golygu