Gwleidydd o'r Alban yw Douglas Chapman (ganwyd 5 Ionawr 1955) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Dunfermline a Gorllewin Fife; mae'r etholaeth yn Fife, yr Alban. Mae Douglas Chapman yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Douglas Chapman
Douglas Chapman


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Tachwedd 2024
Rhagflaenydd Thomas Docherty (Llafur)

Geni (1955-01-05) 5 Ionawr 1955 (69 oed)
Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dunfermline a Gorllewin Fife
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Ydy
Plant 2
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan snp.org

Bu'n gynghorydd Sir ers 1987, gan sefyll fel aelod o'r SNP.

Fe'i magwyd yng Ngorllewin Lothian. Banciwr yw Chapman o ran galwedigaeth, ac fe'i cyflogwyd gan TSB Scotland a phersonél. Ei ddiddordebau yw coginio a darllen. Mae ganddo ddau o blant ac mae ei wraig yn athrawes yn Cowdenbeath.

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Douglas Chapman 28096 o bleidleisiau, sef 50.3% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 39.6 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10352 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  2. [1] Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban