Dunfermline a Gorllewin Fife (etholaeth seneddol y DU)

Mae Dunfermline a Gorllewin Fife yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Fife.

Dunfermline a Gorllewin Fife
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dunfermline a Gorllewin Fife yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd 2005
Aelod Seneddol Douglas Chapman SNP
Nifer yr aelodau 1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd Ewrop Yr Alban

Yn is-etholiad Dunfermline a Gorllewin Fife yn 2006, yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Rachel Squire, trosglwyddodd y sedd o Llafur i'r Democratiaid Rhyddfrydol.[1] Ond dychwelodd y sedd i Lafur yn Etholiad Cyffredinol, Mai 2010.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Douglas Chapman, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[2] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu