Genws o ddeinosoriaid ydy'r Dracoraptor (Cymraeg: Lleidr y Ddraig). Darganfuwyd ffosiliau y rhywogaeth Dracoraptor hanigani yng Nghymru yn y 2010au. Pan oedd yn fyw, roedd y deinosor o faint ci bychan a gan fod y dannedd 1 cm yn siarp fel cyllyll, gwyddom ei fod yn gigysol. Disgrifiwyd y darganfyddiad gan Steven Vidovic, palaeontolegydd ym Mhrifysgol Portsmouth fel ‘y ffosiliau deinosor gorau a ddarganfyddwyd yng Nghymru’ gan mai dyma'r ffosiliau cyntaf o gyfnod y Jurasig cynnar, sydd wedi'u darganfod yng Nghymru.[1] Mae'r ffosiliau – sy'n 201 miliwn o flynyddoedd oed – yn cael eu cadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.[2]

Dracoraptor hanigani
Sgerbwd Dracoraptor hanigani

Roedd y dracoraptor yn 70 cm o uchder ac yn ddwy fetr o flaen ei drwyn i'w gynffon.

Darganfuwyd y ffosiliau yn 2014 mewn craig waddodol ger Glwb Golff Morgannwg, Larnog, a chredir fod y deinosor, ar un cyfnod, wedi marw ar arfordir ynys lle ysgubwyd ef gan y trai i'r môr a'i orchuddio gan wely'r môr a fu'n gyfrifol am ei gadw mewn cyflwr da, a'i ffosileiddio. Mae'n fwy na phosib mai cyw oedd y Dracoraptor hanigani a bod yr oedolyn tipyn mwy, gan nad yw'r esgyrn wedi asio yn ei gilydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Papur newydd y 'Guardian'; adalwyd 21 Ionawr 2016.
  2. carnivoraforum.com; Archifwyd 2018-07-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Ionawr 2016
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddeinosor. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.