Dramma per musica
Mae Dramma per musica (Eidaleg, yn llythrennol: drama ar gyfer cerddoriaeth , lluosog: drammi per musica ) yn libreto. Defnyddiwyd y term gan ddramodwyr yn yr Eidal ac mewn mannau eraill rhwng canol yr 17eg a chanol y 19eg ganrif. Yn y cyfnod modern, cafodd yr un ystyr drama ar gyfer cerddoriaeth ei gyfleu trwy'r gair Eidaleg o dras Roeg melodrama (o μέλος = cân neu gerddoriaeth + δρᾶμα = gweithred olygfaol). Nid oedd Dramma per musica byth yn golygu "drama trwy gerddoriaeth", heb sôn am drama gerddorol.[1]
Felly yn wreiddiol (yn yr Eidal yn yr 17g) roedd drama per musica yn ddrama ar ffurf benillion a ysgrifennwyd yn benodol at y diben o gael ei gosod i gerddoriaeth, mewn geiriau eraill libreto ar gyfer opera. Fel arfer byddai drama per musica ar gyfer opera ddifrifol, byddai libreto a olygir ar gyfer opera buffa, hy opera ddigrif, yn cael ei galw'n dramma giocoso). Trwy estyniad, daeth y term i gael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer yr opera neu'r operâu a gyfansoddwyd i'r libreto, ac roedd cyfansoddwyr yn ffafrio'r amrywiad, dramma in musica, a oedd yn pwysleisio'r elfen gerddorol.[2]
Yn y 18g, daeth y termau hyn, ynghyd â dramma musicale, i fod y disgrifiadau a ddefnyddir amlaf ar gyfer operâu Eidalaidd difrifol. Heddiw, gelwir y rhain yn opera seria, term na chafodd ei ddefnyddio fawr ddim pan gawsant eu creu.
Parhawyd i ddefnyddio'r termau yn gynnar yn y 19eg ganrif ar ôl i ddiwygiadau Gluck ddod â goruchafiaeth opera seria i ben i bob pwrpas: er enghraifft, roedd rhai o operâu difrifol Rossini yn cael eu nodi fel "dramma in musica". Enghreifftiau o drammi per musica yw Xerse (1654), ac Erismena (1656) gan Cavalli; Tito Manlio (1719), gan Vivaldi; Il Bellerofonte (1767) gan Mysliveček; Paride ed Elena (1770) gan Gluck; Armida (1779) gan Salieri; Idomeneo (1781) gan Mozart ac Otello (1816) Rossini, yn ogystal â libretti niferus a ysgrifennwyd gan Pietro Metastasio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sadie, Stanley (gol) (1992). The New Grove Dictionary of Opera. 1. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 1242. ISBN 978-0-19-522186-2.
- ↑ Warrack, John, and Ewan West (1992). The Oxford Dictionary of Opera. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-869164-5.