Bardd o'r Eidal oedd Pietro Metastasio (3 Ionawr 1698 - 12 Ebrill 1782). Ei enw go iawn oedd Antonio Domenico Bonaventura Trapassi. Fe'i ganed yn Rhufain a bu farw yn Fienna. Am nifer o flynyddoedd ef oedd bardd llawryfog yr Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd yn Fienna. Mae'n fwyaf enwog am ei libretos ar gyfer operâu. Mae gan fwy na 800 o operâu libreto gan Metastasio.[1]

Pietro Metastasio
Metastasio by Batoni.jpg
FfugenwArtino Corasio Edit this on Wikidata
GanwydPietro Antonio Domenico Bonaventura Trapassi Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1698, 1698 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 1782, 1782 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethbardd, libretydd, dramodydd, offeiriad Catholig, ysgrifennwr, cyfansoddwr caneuon, henuriad Edit this on Wikidata

PlentyndodGolygu

Ganed Antonio Domenico Bonaventura Trapassi yn Rhufain ym 1698. Daeth ei dad o Assisi, dinas yn rhanbarth Umbria, yr Eidal. Daeth ei fam o Bologna. Roedd tad Metastasio, Felice Trapasso, yn filwr ym myddin y Pab. Yn ddiweddarach bu'n cadw siop fach yn Rhufain. Pan oedd yn fachgen ifanc, roedd Metastasio yn hoffi cyfansoddi cerddi a'u hadrodd yn y strydoedd ger ei dŷ. Roedd ei rieni'n dlawd ac ni allent ei anfon i'r ysgol. Pan oedd yn 10 oed, aeth i weithio i ofaint aur. Un diwrnod clywodd cyfreithiwr cyfoethog o'r enw Giovanni Vincenzo Gravina, y bachgen yn adrodd ei gerddi. Mabwysiadodd Metastasio a thalu iddo fynd i'r ysgol.[2] Newidiodd enw'r bachgen hefyd i Pietro Metastasio. Bu farw Gravina pan oedd Metastasio yn 20 oed a gadawodd ei holl arian iddo. Ysgrifennodd Metastasio gerdd hir er cof am ei dad mabwysiedig, La strada della gloria (Ffordd y Gogoniant).[3]

GyrfaGolygu

Wedi marwolaeth ei lys dad, bu Metastasio yn gweithio fel cyfreithiwr yn Napoli. Yn y dyddiau hynny, roedd Napoli yn enwog am ei gerddoriaeth a'i thai opera. Yn Napoli, cymerodd Metastasio wersi cerdd gan y cyfansoddwr Eidalaidd, Nicola Porpora. Roedd yn hoffi canu a chwarae'r harpsicord. Weithiau fe gyfansoddodd ei gerddoriaeth ei hun hefyd. Gwnaeth arian ychwanegol trwy ysgrifennu cerddi ar gyfer priodasau a phenblwyddi pobl enwog. Ysgrifennodd ei libreto opera cyntaf ym 1724. Fe'i galwyd yn Didone abbandonata. Roedd yn adrodd hanes y Frenhines Dido a'i chariad at Aeneas, tywysog Caerdroea. Roedd yn llwyddiant mawr. Rhoddodd heibio gweithio fel cyfreithiwr gan wneud bywoliaeth trwy ysgrifennu libretos a cherddi. Yn fuan, roedd yn enwog ledled yr Eidal am ei libretos.[4] Gofynnodd Siarl VI, yr Ymerawdwr Glân Rufeinig i Metastasio ddod i Fienna i weithio fel ei fardd llawryfog. Ym mis Mawrth 1730 aeth Metastasio i Fienna.[5] Bu'n byw yno am weddill ei oes. Ysgrifennodd lawer mwy o libretos opera ar gyfer theatr yr ymerawdwr. Ar ôl i'r ymerawdwr farw, bu Metastasio yn gweithio i'w ferch yr Archdduges Maria Teresa o Awstria.

MarwolaethGolygu

Bu farw Metastasio ym 1782 yn nhŷ ei ffrindiau da, y teulu Martinez. Roedd yn 84 oed. Claddwyd Metastasio yn Eglwys Sant Mihangel yn Fienna. Gadawodd ei holl arian i blant Martinez. Mae cofgolofnau i Metastasio yn Rhufain ac yn Fienna. Mae yna theatrau hefyd wedi'u henwi ar ei ôl yn ninasoedd Prato ac Assisi. Yn ystod ei oes hir ysgrifennodd Metastasio lawer o lythyrau at ei ffrindiau. Cyfieithodd y cerddor a'r awdur Saesneg, Charles Burney'r llythyrau i'r Saesneg. Ym 1796, cyhoeddodd Burney bywgraffiad o Metastasio, Memoirs of the Life and Writings of the Abate Metastasio.

Libretos MetastasioGolygu

 
Plant Maria Theresa o Awstria yn dawnsio yn Il Trionfo d'Amore gan Metastasio. Y ferch ar y dde yw Marie Antoinette, Brenhines Ffrainc

Ysgrifennodd Metastasio 26 libreto ar gyfer arddull opera o'r enw opera seria.[6] Roedd llawer o gyfansoddwyr yn eu defnyddio. Mae gan fwy na 800 o operâu libreto gan Metastasio. Dyma rai o'i libretos opera seria mwyaf amlwg: [4]

  • Didone Abbandonata (1724). (Dido adawedig). Mae'n adrodd stori Dido, brenhines gyntaf Carthago, a'i chariad anhapus efo Aeneas. Hwn oedd libreto cyntaf Metastasio. Cyfansoddwyd yr opera gyntaf i ddefnyddio'r libreto gan Domenico Sarro. Yn ystod y 100 mlynedd nesaf defnyddiodd mwy na 40 o operâu gan gyfansoddwyr eraill y libreto hwn.
  • Ezio (1728). Mae'n adrodd hanes Flavius Aetius, cadfridog Rhufeinig yn y 5g. Ezio yw'r enw Eidaleg ar Aetius. Rhai o'r nifer o gyfansoddwyr a ddefnyddiodd y libreto hwn ar gyfer eu hoperâu yw Georg Friedrich Händel, Christoph Willibald Gluck, a Nicola Porpora. Porpora oedd y cyfansoddwr cyntaf i ddefnyddio'r libreto hwn.
  • Siroe (1733). Mae'n adrodd hanes Siroes, brenin Persia yn y 7g. Defnyddiodd George Frideric Handel, Antonio Vivaldi, a llawer o gyfansoddwyr eraill y libreto hwn
  • La Clemenza di Tito (1734). Ystyr y teitl yw Trugaredd Titus. Mae'n adrodd stori Titus, ymerawdwr Rhufeinig yn y ganrif 1af. Defnyddiwyd y libreto hwn lawer gwaith. Yr opera enwocaf sy'n ei defnyddio yw La Clemenza di Tito a gyfansoddwyd gan Wolfgang Amadeus Mozart.[7]
  • Achille in Sciro (1736). Ystyr ei deitl yw Achilles yn Skyros. Mae'n adrodd hanes arwr yr Hen Roeg, Achilles. Pan oedd Achilles yn ddyn ifanc, roedd yn byw ar ynys Roegaidd Skyros. Antonio Caldara oedd y cyfansoddwr cyntaf i ddefnyddio'r libreto hwn. Perfformiwyd ei opera yn Fienna ar 13 Chwefror 1736 i ddathlu priodas Maria Teresa o Awstria â Francis, Dug Lorraine. Y flwyddyn nesaf, cyfansoddodd Domenico Sarro opera gan ddefnyddio'r libreto hwn. Perfformiwyd opera Sarro i ddathlu agoriad y Teatro di San Carlo newydd yn Napoli. Cyfansoddwr arall a ddefnyddiodd y libreto hwn oedd Giovanni Paisiello.

Ysgrifennodd Metastasio libretos hefyd ar gyfer mathau eraill o straeon wedi'u gosod i gerddoriaeth. Fe'u defnyddiwyd ar gyfer cantatau, oratorios, baletau a math arbennig o opera fer o'r enw azione. Mae azione yn adrodd stori hapus neu ddoniol yn bennaf. Fe'u perfformiwyd mewn llysoedd brenhinol i ddathlu priodasau, penblwyddi a phen-blwyddi arbennig. Un o aziones enwocaf Metastasio yw Il Trionfo d'Amore (Buddugoliaeth Ciwpid). Fe'i perfformiwyd ym Mhalas Schönbrunn ym 1765 i ddathlu priodas Joseph II o Awstria mab Maria Teresa. Bu plant iau Maria Teresa i gyd yn canu ac yn dawnsio yn Il Trionfo d'Amore.

CyfeiriadauGolygu

  1. Encyclopædia Britannica - Pietro Metastasio adalwyd 23 Medi 2020
  2. "In Mozart's Words". www.dhi.ac.uk. Cyrchwyd 2020-09-23.
  3. "Metastasio [Trapassi], Pietro". Grove Music Online. doi:10.1093/gmo/9781561592630.article.53181. Cyrchwyd 2020-09-23.
  4. Cotticelli, Francesco; Maione, Paologiovanni (2009), DelDonna, Anthony R.; Polzonetti, Pierpaolo, eds., "Metastasio: the dramaturgy of eighteenth-century heroic opera", The Cambridge Companion to Eighteenth-Century Opera, Cambridge Companions to Music (Cambridge University Press): pp. 66–84, doi:10.1017/ccol9780521873581.005, ISBN 978-0-521-87358-1, https://www.cambridge.org/core/books/cambridge-companion-to-eighteenthcentury-opera/metastasio-the-dramaturgy-of-eighteenthcentury-heroic-opera/8AF7B768A418FF6A2E4CCEAB57FBD890, adalwyd 2020-09-23
  5. "Pietro Metastasio | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-09-23.
  6. "Metastasio (1698–1782)". Classic FM. Cyrchwyd 2020-09-23.
  7. nickfuller (2019-03-31). "A note on Metastasio". The Opera Scribe. Cyrchwyd 2020-09-23.