Dubrovnik
Mae Dubrovnik (Nodyn:IPA-hrNodyn:IPA-hr;[1] hanesyddol Lladin: Ragusa) yn ddinas Croataidd ar arfordir y Mor Adriatig. Mae'n un o brif atyniadau i dwristiaid ar For y Canoldir, gyda phorthladd a chanolbarth canolfan Dubrovnik-Neretva County. Cyfanswm ei phoblogaeth fel dinas yw 42,615 (cyfrifiad). Yn 1979, ymunodd dinas Dubrovnik a rhestr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth Byd-eang,
Arwyddair | La liberté ne se vend pas même pour tout l'or du monde |
---|---|
Math | tref yn Croatia, dinas |
Cysylltir gyda | Ffordd Ewropeaidd E65 |
Poblogaeth | 41,562 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andro Vlahušić |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Blaise of Sebaste |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sir Dubrovnik-Neretva |
Sir | Sir Dubrovnik-Neretva |
Gwlad | Croatia |
Arwynebedd | 142.6 km², 12.1 km² |
Uwch y môr | 3 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 42.6403°N 18.1083°E |
Cod post | 20000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Andro Vlahušić |
Roedd ffyniant y ddinas yn seiliedig yn hanesyddol ar fasnach morwrol; fel prifddinas hen Weriniaeth Ragusa. datblygodd yn sylweddol, yn arbennig yn ystod y 15fed a 16g, wrth iddi ddod yn fwy nodedig am ei chyfoeth a'i diplomyddiaeth fedrus.
Yn 1991, yn dilyn hollti'r hen Iwgoslafia, daeth Dubrovnik dan warchae milwyr Serbaidd a Montenegrin Byddin y Bobl Iwgoslafaidd (JNA) am saith mis a dioddefodd ddifrod sylweddol o ganlyniad i'w bombardio.[2][3][4][5][6][7][8][9] Ar ôl gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn y 1990au a'r 2000au cynnar, daeth Dubrovnik unwaith eto yn un o'r prif gyrchfannau twristaidd Mor y Canoldir.[10][11][12][13]
Enwau
golyguBu'r enwau Dubrovnik a Ragusa yn cyd-fodoli am ganrifoedd lawer. Ragusa, enw a gofnodwyd mewn gwahanol ffurfiau ers y 10g, oedd enw swyddogol Gweriniaeth Ragusa tan 1808, ac enw'r ddinas of fewn i Deyrnas Dalmatia tan 1918, tra bod Dubrovnik, a oedd wedi'i gofnodi gyntaf fel enw ar ddiwedd y 12g, yn cael ei ddefnyddio yn eang erbyn diwedd y 16eg a dechrau'r 17g.[14]
Mae'r enw Dubrovnik ar gyfer y ddinas Adriatig wedi'i gofnodi gyntaf yn Siarter Ban Kulin (1189).[15] Ei darddiad mwyaf tebygol yw'r gair "dubron", enw Celtaidd ar gyfer dwr (Galeg dubron, Gwyddeleg dobar, Cymraeg dwr/dwfr, Cernyweg dofer), tebyg i'r toponymau Douvres, Dover, a Tauber.[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dùbrōvnīk". Hrvatski jezični portal (yn Croatian). Cyrchwyd 6 March 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Wood, Paul (2 March 2001). "Charges over Dubrovnik bombing". bbc.co.uk. Cyrchwyd 1 March 2017.
- ↑ "Anniversary Of Attack On Dubrovnik – Just Dubrovnik". justdubrovnik.com. 1 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-16. Cyrchwyd 2018-07-15.
- ↑ B.Anzulovic: Heavenly Serbia: From Myth to Genocide, NYU Press, 1999
- ↑ K. Morrison: Montenegro: A Modern History, I. B. Tauris, 2009
- ↑ Dr. Katheleen Wilkes devoted her life to the victory of Croatia http://www.croatianhistory.net/etf/wilkes.html
- ↑ "Business – Serbs Retreat, Release Their Grip On Dubrovnik – But Sarajevo Attack Continues; 20 Killed – Seattle Times Newspaper". nwsource.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-27. Cyrchwyd 2018-07-15.
- ↑ New York Times, November 1991, Serbia's Spiteful War, https://www.nytimes.com/1991/11/06/opinion/serbia-s-spiteful-war.html
- ↑ New York Times, November 1992, As Siege Ends, Croats Return to Ruined City, https://www.nytimes.com/1992/11/03/world/as-siege-ends-croats-return-to-ruined-city.html
- ↑ "Dubrovnik voted second best cruise destination in the Mediterranean – Dubrovnik VIDI Travel Guide". vidiworld.com.
- ↑ "The Most Visited Tourist Destination in Croatia in 2015 is…".
- ↑ "Top 10 Mediterranean Destinations".
- ↑ "Dubrovnik and around Guide – Croatia Travel". Rough Guides. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-16. Cyrchwyd 2018-07-15.
- ↑ Oleh Havrylyshyn, Nora Srzentiæ, Institutions Always 'Mattered': Explaining Prosperity in Mediaeval Ragusa (Dubrovnik), Palgrave Macmillan, 10 Rhagfyr 2014, p. 59[dolen farw]
- ↑ "Bosna". Leksikon Marina Držića. Miroslav Krleža Institute of Lexicography. 2017. Cyrchwyd 2 March 2017.
- ↑ Whitley Stokes; Adalbert Bezzenberger (1894), August Fick, ed., Vergleichendes Wörterbuch der indogermanischen Sprachen: Wortschatz der Keltischen Spracheinheit, 2 (4th ed.), Vandenhoeck & Ruprecht, pp. 153–154, https://archive.org/details/vergleichendeswr02fick