Durango
Tref a bwrdeistref yn ne-ddwyrain Bizkaia yw Durango. Mae'n rhan o ardal Durango, Durangaldea. Mae ganddi arwynebedd o 10.79 km², ac yn 2023 roedd ganddi 29,767 o drigolion.
Enghraifft o'r canlynol | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Rhan o | Q107556231 |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Rhanbarth | Durangaldea |
Gwefan | http://www.durango-udala.net/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enw
golyguMae sawl barn gwahanol am darddiad enw'r dref. Awgrymodd yr ieithydd Alfonso Irigoyen mai'r enw Duranco, a ddefnyddiwyd yn y canol oesoedd, yw'r tarddiad.[1] Mae eraill yn awgrymu ei fod yn tarddu o Urazango neu Padurango. Mae'r Euskaltzaindia yn awgrymu bod yr enw Durango'n deillio o'r enw Lladin Turanicus, sef fundus Rhufeinig fel sawl un arall yng Ngwlad y Basg (Kuartango er enghraifft). Yn statud fuero'r dref, cyfeirir ati fel Tavira de Durango; Tabira oedd enw gwreiddiol y dref mae'n debyg, gyda Durango'n enw ar ardal ehangach o'i chwmpas. Tan y 16g, gelwid y dref yn Uribarri de Durango, sef Tref Newydd de Durango.
Enwyd Durango ym Mecsico, Durango yn Colorado, a Durangos eraill yn Iowa a Tecsas ar ei hôl.
Daearyddiaeth
golyguLleolir Durango ym mherfeddwlad Bizkaia, ar wastadedd bach a grëwyd gan afon Ibaizabal. Mae afon Ibaizabal yn mynd trwy'r dref, lle mae ffrydiau Mañarierreka a Larrinagatxu yn ymuno â hi.
O fewn adal y fwrdeistref, mae mynyddoedd Mugarra (960 metr) a Neberondo (453 metr) yn sefyll allan, gan ffurfio cadwyn o fynyddoedd calchfaen. Mugarra yw dechrau cadwyn mynyddoedd Durangalde, sy'n ymestyn ar draws y rhanbarth hwn o Bizkaia ac yn cynnwys mynyddoedd Alluitz, Untxillatz ac Anboto ym Mharc Natur Urkiola.
Bwrdeistrefi cyfagos
golyguMae Durango'n ffinio ag Iurreta i'r gogledd, Izurtza i'r de, Amorebieta-Etxano a Dima i'r gorllewin, ac Abadiño i'r dwyrain.
Hanes
golyguRoedd ardal Durango'n rhan o deyrnas Nafarroa, nes iddi gael ei gynnwys yn derfynol yn nheyrnas Castilla yn 1200. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, rhoddodd Brenin Harri'r 1af denantiaeth ardal Durango i Diego Lopéz de Harro, am ei wasanaeth ym mrwydr Navas de Tolosa.
Ganol y 12g, sefydlodd brenin Nafarroa dref o'r enw Villanueva de Durango, ar safle tref Tabira.
Un o'r digwyddiadau enwocaf oedd heresi Durango (1442-1445), mudiad anghydffurfiol dan arweiniad Fray Alfonso de Mella. Roedd yn argymell darllen y Beibl yn bersonol, rhyddid i eiddo a rhyddid personol. Cyhoeddodd yr Eglwys Gatholig bod Fray Alfonso yn heretic, ac anfonwyd y Chwil-Lys i erlyn y mudiad. Dedfrydwyd dros gant i farwolaeth, a llosgwyd 13 yn Kurutziaga, yn Santo Domingo de la Calzada ac yn Valladolid. Dywedir i groes Kurutziaga gael ei hadeiladu'n ymddiheuriad am y digwyddiad hwn.
Ar 31 Mawrth, 1937, bomiodd awyrennau Eidalaidd o dan orchymyn Franco y ddinas, gan ladd tua 400 o bobl.
Rhwng 1939 a 1940, roedd Carchar Menywod Durango dan ofal lleianod y Karidade. Bu farw 5 o fenywod a 6 o blant yno.
Ar 1 Tachwedd, 1965, trefnwyd Ffair Lyfrau Durango am y tro cyntaf.
Demograffeg
golyguFel llawer o leoedd eraill yn Bizkaia, cynyddodd poblogaeth Durango yn fawr yn ystod ail hanne, gyda phobl yn dod o Sbaen. Ar ddiwedd y ganrif sefydlogodd y boblogaeth, ond tyfodd eto ar ddechrau'r 20fed ganrif, gyda mewnfudwyr o bob rhan o'r byd y tro hwn.
Ym 1990, gwahanodd Iurreta oddi wrth Durango; ers hynny nid yw ei thrigolion yn ymddangos yn ystadegau Durango.
Cymdogaethau
golyguA siarad yn ystadegol, mae gan dref Durango yr adrannau canlynol[2]:
- Aramotz
- Aldezaharra/Casco Viejo
- Ensanche
- Erretentxu
- Landako
- Magdalena
- San Fausto
- San Ignazio
- San Roke
- Tabira
Ac o ran ardaloedd ffermydd[3]:
- Sant Luzia
- Eguzkitza
- Larrinagatxu
Diwylliant
golyguYr iaith Fasgeg
golyguMae tafodiaith gynhenid y dref a'r cyffiniau yn amrywiad ar Fasgeg Orllewinol, tafodiaith Durangalde sef ardal Durango[5][6]. Erbyn hyn, o edrych ar ddata Eustat, roedd 52.91% o drigolion Durango (yn 2016) yn siaradwyr Basgeg.
Canolfannau diwylliannol
golygu- Canolfan Ddiwylliannol San Agustin .
- Plas Etxezarreta: Amgueddfa Gelf a Hanes Durango.
- Theatr Plateruena Kafe.
- Andragunea
Digwyddiadau
golygu- Ffair Lyfrau Durango .
- Pasiñue Durango .
- Diwrnod llenyddol gyda geiriau a lleisiau
- Aratusteak Durango
Cyfryngau
golygu- Cylchlythyr Anboto
Enwogion
golyguYmhlith enwogion Durango, ceir Juan Zumarraga, a sefydlodd brifysgol Mecsico yn yr 16g; Xabier Castillo, chwaraewr gydag Athletic; Pablo Pedro Astarloa, offeiriad ac un o garedigion y Fasgeg; a'r bertsolaris Unai Iturriaga ac Igor Elortza.
Oriel luniau
golygu-
Hen lun o'r bwa yn sqwâr eglwys Santa Ana yn Durango.
-
Bwa sgwâr Santa Ana heddiw.
-
Croes Kurutziaga.
-
Tŵr Lariz Andragune
-
Plas Zabala
-
Amgueddfa Hanes a Chelf Plas Etxezarreta
-
Plas Garai
-
Neuadd Tref Durango.
-
Plas Arribi ar stryd Goien.
-
Y plas ar stryd Kurutziaga.
-
Eglwys San Pedro yn Tabira.
-
Eglwys San Fausto
-
Basilica Ein Harglwyddes o Uribarri.
-
Eglwys Santa Ana
-
Capel Mair Fadlen
-
Ysgol San Jose
-
Lleiandu San Frantzisko.
-
Canolfan Ddiwylliannol San Agustin, cyn leiandy o'r un enw.
-
Sgwâr Balbino Garitaonandia.
-
Sgwâr Eskurdi
-
Landako Gunea
Cyfeiriadau
golygu- ↑ History of Durango at Durango's City Hall website (Basque)
- ↑ Eustat, "Euskal AEko biztanleak, 10.000 biztanle baino gehiagoko auzoen arabera, jarduerarekiko harremanari jarraiki.", eu.eustat.eus, https://eu.eustat.eus/elementos/ele0014200/ti_poblaciondelacadeeuskadiporbarriosdelosmunicipiosdemasde10000habitantessegunla-relacion-con-la-actividad-01012019/tbl0014225_e.html
- ↑ "Durangoko toponimia : Emaitzak", www.durango-euskaraz.eus, https://www.durango-euskaraz.eus/toponimia/euskara/bilaketa/emaitzak?q1=&q7=4&q3=
- ↑ "Ahotsak.eus, Euskal Herriko hizkerak eta ahozko ondarea" (yn eu), ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/
- ↑ "Durangaldekoa - Ahotsak.eus" (yn eu), ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/euskalkiak/mendebalekoa-bizkaiera/sortaldekoa-m/durangaldekoa/
- ↑ "Durango - Ahotsak.eus" (yn eu), ahotsak.eus, https://ahotsak.eus/durango/