Durango (Talaith)

Un o 31 talaith ffederal Mecsico yw Durango. Mae ganddi boblogaeth o 1,754,754 (2015)[1]. Mae ganddi'r dwysedd poblogaeth ail isaf yn y wlad (ar ôl Baja California Sur). Dinas Durango yw prifddinas y dalaith. Mae'r rhan fywaf o'r dalaith yn fynyddig iawn gyda llawer o goedwigoedd trwchus. Gorwedd mynyddoedd y Sierra Madre Occidental yng ngorllewin a chanolbarth y dalaith. Ceir llawer o fwynau yn y mynyddoedd hynny, yn cynnwys arian, a dyma un o'r rhesymau pam fod y Sbaenwyr mor awyddus i feddianu'r ardal. Mae'r ardal gwelyau mwyn yn ymestyn i'r gogledd i dalaith Chihuahua ac i'r de i Zacatecas. Ceir basnau anial anferth yn ardal Laguna sy'n cael eu dyfrhau gan Afon Nazas. Mae prif gnydau'r ardal yn cynnwys cotwm, gwenith, ŷd, alfalfa, ffa, sorghum a llydiau eraill. Yn ogystal â ffermio, y prif ddiwydiannau yw coedwigaeth a ransio.

Durango
Mathtalaith Mecsico Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDurango Edit this on Wikidata
PrifddinasDurango Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,754,754 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1824 Edit this on Wikidata
AnthemQ48781839 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJosé Rosas Aispuro Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolNorthern Mexico Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd123,317 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,966 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaChihuahua, Coahuila, Zacatecas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.9347°N 104.9119°W Edit this on Wikidata
Cod post34 Edit this on Wikidata
MX-DUR Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCongress of Durango Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Durango Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJosé Rosas Aispuro Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y dalaith yw hon. Am brifddinas y dalaith gweler Durango, Durango. Gweler hefyd Durango (gwahaniaethu).
Lleoliad talaith Durango ym Mecsico

Mae Durango'n enwog am ei sgorpionau.

Ymsefydlodd y Sbaenwr Francisco de Ibarra yn Durango, a oedd yn rhan o dalaith anferth Nueva Vizcaya, yn 1563: sefydlodd ddinas Durango a'i henwi ar ôl ei dref enedigol Durango, yng Ngwlad y Basg. Ond gwrthwynebodd y bobloedd brodorol y trefedigaethwyr Sbaenaidd ac o hynny ymlaen maent wedi brywdro i gael elfen o ymreolaeth ar eu materion eu hunain. Yn 1823, yn fuan ar ôl diwedd Rhyfel Annibyniaeth Mecsico, daeth Durango yn dalaith ffederal.

Mae enwogion Durango yn cynnwys yr arweinydd chwyldroadol Pancho Villa a'r actores Dolores del Río.

Prif ddinasoedd a threfi

golygu

Dolenni allanol

golygu
  1. http://www.inegi.org.mx/sistemas/consulta_resultados/zip/iter2010/iter_10xls10.zip.