Mae'r Euskaltzaindia yn academi iaith swyddogol sy'n gyfrifol am warchod, dadansoddi, lledaenu, safoni a gwella'r Fasgeg, a sefydlwyd ym 1919. Gall fod hyd at 32 aelod llawn o'r academi (hyd at 2007, roedd uchafswm o 24 aelod) [1] ac, yn ogystal â'r aelodau hyn, mae nifer di-derfyn o aelodau gohebol ac aelodau anrhydeddus. Arwyddair yr Euskaltzaindia yw Ekin eta jarrai - "cychwyn a pharhau".

Sefydlwyd yr Euskaltzaindia gan bedair talaith deheuol Gwlad y Basg, ynghyd ag Eusko Ikaskuntza (Cymdeithas Astudiaethau Basgeg). Lleolir y pencadlys ar Sgwâr Barria yn hen dref Bilbao, ac mae swyddfeydd yn Gasteiz, Donostia , Iruñea a Baiona yn ogystal. Y prif ffynhonnell cyllid ar gyfer yr Euskaltzaindia yw grantiau, ac erbyn hyn pedwar corff cyhoeddus yw'r prif ariannwyr: y Llywodraeth Gwlad y Basg, Awdurdod Rhanbarthol Araba, Awdurdod Rhanbarthol Bizkaia ac Awdurdod Rhanbarthol Gipuzkoa.

Aelodau llawn golygu

Mae gan aelodau (Euskaltzain) llawn yr holl hawliau sydd ynghlwm ag aelodaeth, sef bod yn gyfarwyddwyr a gallu pleidleisio yng nghyfarfodydd academi yr Euskaltzaindia. Rhaid i'r Euskaltzain bod wedi eu geni neu eu magu yn un o blith y tiriogaethau Basgeg, fel y gall Euskaltzaindia at ei gilydd gynrychioli'r holl dafodieithoedd[2]. Ar hyn o bryd mae 27 aelod, a gall fod hyd at 32. Pan fydd holl aelodau'r Academi yn cyrraedd 75 oed, maent yn dod yn aelodau emeritws awtomatig. Ni all nifer yr aelodau emeritws fod yn fwy na thraean o'r aelodau.

Aelodau Llawn [3]
 Sagrario Aleman   Adolfo Arejita   Aurelia Arkotxa   Bernardo Atxaga   Miren Azkarate   Jean-Baptiste Coyos 
 Jean-Louis Davant   Patxi Goenaga   Andres Iñigo   Jabier Kaltzakorta   Xabier Kintana   Joseba Lakarra 
 Jose Luis Lizundia   Beñat Oihartzabal   Miren Lurdes Oñederra   Txomin Peillen   Andoni Sagarna   Patxi Salaberri 
 Pello Salaburu   Ibon Sarasola   Ana Toledo   Joan Mari Torrealdai   Patxi Uribarren   Andres Urrutia 
 Xarles Videgain   Patxi Zabaleta   Mikel Zalbide       
  1. «Euskaltzain oso izendatu dituzte Joan Mari Torrealdai eta Lourdes Oñederra», Diario Vasco , 2007-12-01.
  2. Rheoliadau Euskaltzaindia .
  3. Euskaltzain Gyfan.Euskaltzaindia.org. Ymgynghorwyd ar 10 Rhagfyr 2016