Band pop Cymreig yw Dusky Grey a sefydlwyd yn 2016 gan Gethin Llwyd Williams a Catrin Hopkins.

Dusky Grey
Enghraifft o'r canlynolband, deuawd, cynulliad cerddorol Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Label recordioParlophone Records Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Medi 2016 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Enw brodorolDusky Grey Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.duskygrey.com/ Edit this on Wikidata

Aelodau

golygu

Mae Gethin yn wreiddiol o Rhiwlas ac aeth i Ysgol Dyffryn Ogwen. Ei lysenw yn yr ysgol oedd 'Dusky' am mai dyna un o ystyron yr enw Gethin. Felly ynghyd a'i ail enw 'Llwyd' bathwyd yr enw 'Dusky Grey'. Yn 2015 aeth i Brifysgol John Moores Lerpwl i astudio Gwyddor Chwaraeon. Cychwynnodd y band fel prosiect unigol ar ôl cael ei ysbrydoli gan Ed Sheeran a chael gitâr yn anrheg ar ei ben-blwydd yn 16 mlwydd oed. Cyhoeddodd albwm o'i ganeuon - Hide & Seek yn 2016 (nid yw ar gael bellach).[1]

Mae Catrin yn dod o Gaernarfon ac aeth i Ysgol Syr Hugh Owen lle astudiodd Seicoleg, Iechyd a Gofal a Fhotograffiaeth yn y 6ed dosbarth. Roedd wedi bod yn canu yn lleol ac wedi cael rhai o'i chaneuon wedi eu chwarae ar y radio. Enillodd gystadleuaeth Talent Cymru yn 2013 a rhan o'r wobr oedd cael recordio CD gyda chwmni laBelaBel, cwmni recordiau Bryn Fôn. Cafodd y cyfle i ganu gyda Bryn Fôn ac ar raglenni teledu fel Noson Lawen a Chân i Gymru yn 2015. Yn 2016 roedd yn astudio yn y brifysgol ym Mangor. Cysylltodd â Gethin ar Facebook er mwyn ysgrifennu caneuon a datblygodd y bartneriaeth o hynny.

Llwyddiant cynnar

golygu

Recordiwyd y gân "Told Me" gyda Rich Roberts yn stiwdio Ferlas a'i ryddhau yn Tachwedd 2016. Ychwanegwyd y trac i restr chwarae 'New Pop Revolution' ar Spotify a chafodd llawer iawn o sylw. Erbyn Awst 2017 roedd wedi ei ffrydio 9 miliwn o weithiau ar Spotify.

O fewn ychydig wythnosau i ryddhau'r gân, fe arwyddodd y ddau gyda label East West Records o dan ymbarél Warner Music Group a phenderfynodd y ddau adael y brifysgol er mwyn ymroi eu holl amser i gerddoriaeth. Ychwanegwyd eu cân "Call Me Over" i restr chwarae BBC Radio 1 yn Awst 2017 dan faner "BBC Music Introducing"[2]

Disgyddiaeth

golygu
  • "Told Me" (Sengl, Tachwedd 2016)
  • "Call Me Over" (Sengl, Awst 2017)

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Bio ar East West Records. East West Records.
  2.  Sêr ifanc Spotify. BBC Cymru Fyw (18 Awst 2017).

Dolenni allanol

golygu