Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Lincoln, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln (Saesneg: Borough of North East Lincolnshire).
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
---|---|
Prifddinas | Grimsby |
Poblogaeth | 159,821 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Königswinter |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Swydd Lincoln |
Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 191.8639 km² |
Cyfesurynnau | 53.55°N 0.1°W |
Cod SYG | E06000012 |
GB-NEL | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of North East Lincolnshire Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 192 km², gyda 159,563 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln i'r gogledd, Ardal Gorllewin Lindsey i'r gorllewin, ac Ardal Dwyrain Lindsey i'r de, yn ogystal ag aber Afon Humber a Môr y Gogledd i'r dwyrain.
Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. (Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Swydd Lincoln.)
Rhennir y fwrdeistref yn 21 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Grimsby, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bottesford, Cleethorpes ac Immingham.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 6 Ionawr 2021